Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 10 Chwefror 2026, yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc, staff ysgolion, rhieni a gofalwyr a busnesau yng Nghymru fod yn rhan o ymgyrch wirioneddol fyd-eang.
Yn y Deyrnas Unedig, caiff y diwrnod ei gydlynu gan UK Safer Internet Centre ac yn ystod y dathliad mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y Deyrnas Unedig.
Y thema eleni yw ‘Technoleg smart, dewisiadau diogel – Archwilio’r defnydd diogel a chyfrifol o AI’. Mae pawb yn siarad am AI, ac wrth i lawer o blant a phobl ifanc glywed amdano ac ei ddefnyddio ar-lein, mae’n bwysig bod ganddynt y sgiliau a’r hyder i wneud dewisiadau diogel wrth ddefnyddio technoleg smart.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol: