Darllenwch y diweddariadau diweddaraf gan Awdurdod Cyllid Cymru.
O hydref 2026, bydd angen i unrhyw un sy'n cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Cofrestrwch ar gyfer gweminar cofrestru llety i ymwelwyr.
Cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer Ardoll Ymwelwyr: Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru i'ch helpu i ddeall sut y bydd yr Ardoll Ymwelwyr yn gweithio os bydd eich cyngor yn dewis cyflwyno un.
Helpwch i lunio sut y bydd cofrestru llety i ymwelwyr a'r Ardoll Ymwelwyr yn gweithio drwy ymuno â'r panel ymchwil defnyddwyr. Mae Awdurdod Cyllid Cymru am glywed gan ddarparwyr llety i ymwelwyr. Oes gennych ddiddordeb? Cofrestrwch i gymryd rhan neu ddarganfod mwy.
Newidiadau i'r Dreth Trafodiadau Tir: Daeth dau newid i’r Dreth Trafodiadau Tir i rym ar 13 Chwefror 2026, darganfyddwch fwy.