Ymunwch Busnes Cymru ar gyfer lansiad Cyfrifwr Twf Gwyrdd, offeryn arloesol a ddyluniwyd yn benodol i helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) i ddeall, mesur a lleihau eu hôl troed carbon wrth nodi cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy ar y daith tuag at Sero Net.
Gyda chynaliadwyedd yn chwarae rôl gynyddol bwysig mewn penderfyniadau caffael, bydd yr offeryn yn helpu busnesau i ddatblygu Cynlluniau Lleihau Carbon, bodloni gofynion prynwyr sy'n dod i'r amlwg, a gosod eu hunain fel y cyflenwyr delfrydol mewn economi carbon-isel.
Wrth i gynaliadwyedd ddod yn ystyriaeth gynyddol bwysig ym maes caffael yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae busnesau sy'n gallu dangos eu hymrwymiad amgylcheddol yn aml mewn sefyllfa well i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Mae llawer o dendrau bellach yn gofyn i gyflenwyr ddangos tystiolaeth o’u dull o leihau allyriadau carbon, gyda rhai yn gofyn am Gynllun Lleihau Carbon ffurfiol fel rhan o’r broses dendro.
P’un a yw eich busnes newydd ddechrau ystyried ymrwymiadau sero net neu’n awyddus i gryfhau cynlluniau amgylcheddol presennol, bydd y digwyddiad hwn am ddim yn darparu offer ymarferol, cyngor arbenigol a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i helpu eich sefydliad i ffynnu yn y cyfnod o drawsnewid i economi fwy gwyrdd.
Dyddiadau a lleoliadau:
- 17 Tachwedd 2026, 8.30am – 11am – Wrecsam
- 18 Tachwedd 2026, 8.30am – 11am – Bangor
- 19 Tachwedd 2026, 8.30am – 11am - Aberystwtyh
- 24 Tachwedd 2026, 9.30am – 12pm – Llandrindod Wells
- 25 Tachwedd 2026, 8.30am – 11am – Caerdydd
- 26 Tachwedd 2026, 8.30am – 11am – Doc Penfro
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, dewiswch y ddolen galynol: Business Wales Events Finder - Lansio Cyfrifwr Twf Gwyrdd.