Newyddion

Digwyddiadau â chymorth yn cyflawni enillion enfawr ar fuddsoddiad

Between the trees festival

Cynhyrchodd digwyddiadau celf, diwylliant a chwaraeon a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Digwyddiadau Cymru fwy na £40 miliwn i'r economi yn 2024.

Roedd hyn yn cynrychioli enillion deg i un ar fuddsoddiad, gyda bron £4 miliwn yn cael ei ddarparu i gefnogi cyfanswm o 35 o ddigwyddiadau y llynedd.

Ymhlith y digwyddiadau llwyddiannus roedd ras feicio Tour of Britain i fenywod, Cwpan y Byd Cleddyfa Cadair Olwyn, gŵyl Hijinx Unity a Gŵyl gyntaf Dinas Gerdd Caerdydd.

Cafodd bron i 170,000 o ymwelwyr ychwanegol eu denu i Gymru gan ddigwyddiadau a ariannwyd y llynedd, ac fe wnaethant hefyd gefnogi dros 900 o swyddi yn yr economi dwristiaeth ehangach.

Fe wnaethant greu tua 4,000 o gyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli, ac arddangos bron i 1,000 o artistiaid perfformio o Gymru, neu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru .

Mae darparu cymorth ariannol i ddigwyddiadau sy'n denu ymwelwyr i Gymru yn un o brif amcanion Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030.

Mae Gŵyl Rhwng y Coed, sy'n cael ei chynnal yng nghoedwig Candleston ym Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr, yn denu bron i hanner ei chynulleidfa o'r tu allan i'r wlad bob penwythnos gŵyl banc ym mis Awst.

Yn 2024, gyda chymorth Digwyddiadau Cymru, denodd yr ŵyl tua 20% yn fwy o ymwelwyr. Darparodd hefyd hyd at 50 o gyfleoedd gwirfoddoli i grwpiau cymunedol ledled rhanbarth Pen-y-bont ar Ogwr, a chafodd sylw mewn papur newydd cenedlaethol.

Mae digwyddiadau mawr ar gyfer y dyfodol eisoes wedi'u sicrhau hyd at 2030, gan gynnwys cymal o Tour de France yn 2027 a chwe gêm o EURO 2028 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Ym mis Gorffennaf, bydd Pencampwriaeth Agored yr AIG i Fenywod hefyd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff Royal Porthcawl – y digwyddiad chwaraeon i fenywod yn unig mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch y ddolen hon: Digwyddiadau â chymorth yn cyflawni enillion enfawr ar fuddsoddiad | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.