Mae'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth wedi dod yn gyfraith.
Mae'r ddeddfwriaeth nodedig hon wedi'i chynllunio i foderneiddio a gwella hawliau cyflogaeth a chryfhau eu gorfodi.
Bydd darpariaethau yn y Ddeddf yn cael eu gweithredu trwy ddull graddol. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Hawliau o’r diwrnod cyntaf i absenoldeb tadolaeth ac absenoldeb rhiant di-dâl
- Diwygiadau i Dâl Salwch Statudol
- Gwell amddiffyniadau rhag diswyddo i fenywod beichiog a mamau newydd
- Mwy o amddiffyniad rhag diswyddo annheg
- Diwedd ar gontractau dim oriau ecsbloetiol
- Hawl newydd i absenoldeb profedigaeth di-dâl
- Sefydlu'r Asiantaeth Gwaith Teg
Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda busnesau ac undebau llafur ar weithredu'r Ddeddf. Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK.