
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y mae angen i chi ei wybod i baratoi ar gyfer newidiadau a fydd yn digwydd i'r gyfraith sy'n llywodraethu cytundebau peidio â datgelu.
Bydd deddfwriaeth newydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2025 sy'n effeithio ar gymalau cyfrinachedd, a elwir hefyd yn gytundebau peidio â datgelu. Mae'r canllawiau’n esbonio'r newidiadau a'r hyn y byddant yn ei olygu i fusnesau ac unigolion sy'n defnyddio cytundebau peidio â datgelu. Gwnaed y newidiadau hyn drwy Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024 (adran 17), ac maent yn ymestyn ac yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.
Mae'r canllawiau hyn ar eich cyfer chi os:
- Ydych chi'n fusnes yng Nghymru neu Loegr
- Ydych chi'n fusnes sy'n defnyddio cytundebau peidio â datgelu a lywodraethir gan gyfraith Cymru neu Loegr
- Ydych chi'n unigolyn sy'n defnyddio cytundebau peidio â datgelu
Er mwyn paratoi ar gyfer y newid yn y gyfraith o 1 Hydref 2025, dylai busnesau:
- Ymgyfarwyddo â'r newid yn y gyfraith a'r canllawiau hyn a sicrhau eu bod yn deall beth yw'r goblygiadau i'w busnes
- Diweddaru canllawiau mewnol perthnasol ar y defnydd o gytundebau peidio â datgelu er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r gyfraith newydd
- Sicrhau bod unrhyw gytundeb peidio â datgelu a thempledi contract cyffredinol yn cydymffurfio â'r gyfraith newydd. Yr arfer gorau fyddai gwneud yn glir ar wyneb y cytundeb peidio â datgelu beth mae partïon yn gallu ei ddatgelu mewn amgylchiadau penodol a gwneud yn glir beth yw'r amgylchiadau hynny (yn benodol y rhai a grybwyllir yn y canllawiau hyn)
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Victims and Prisoners Act 2024: changes to non-disclosure agreements - GOV.UK