Newyddion

Cynlluniau i dorri ardrethi busnes ar gyfer siopau manwerthu llai

shop in Brecon

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad 12 wythnos, a allai fod o fudd i tua 13,000 o eiddo manwerthu ledled Cymru.

Byddai'n torri ardrethi ar gyfer siopau manwerthu gyda gwerthoedd ardrethol o lai na £51,000, i'w helpu i gystadlu â manwerthwyr ar-lein. Gellid codi ychydig rhagor ar eiddo mwy o faint sydd â gwerthoedd ardrethol o dros £100,000, ond byddai rhai adeiladau cyhoeddus fel ysbytai ac ysgolion yn cael eu diogelu.

Os cânt eu cymeradwyo, byddai'r newidiadau'n dechrau ar 1 Ebrill y flwyddyn nesaf. Bydd yr union ardrethi yn cael eu pennu yn ystod gwaith cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026 i 27.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 12 Awst 2025: Cynigion ar gyfer lluosyddion gwahaniaethol ardrethi annomestig | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.