
Cyllid ar gyfer datblygu cyfleusterau gweithgynhyrchu a seilwaith porthladdoedd hanfodol i alluogi defnydd cyflymach o ynni ar y môr o amgylch y DU yw ffocws ail rownd Cynllun Sbarduno Cadwyn Gyflenwi arloesol Ystad y Goron.
Yn dilyn llwyddiant y rownd ariannu gychwynnol yn 2024, mae Ystad y Goron wedi dyrannu £15 miliwn ar gyfer rownd nesaf y rhaglen sy'n ceisio rhoi hwb i fuddsoddiadau yn seilwaith porthladdoedd a chyfleusterau cadwyn gyflenwi ynni ar y môr y DU.
Sefydlodd Ystad y Goron y Cynllun Sbarduno Cadwyn Gyflenwi gwerth £50 miliwn y llynedd i sbarduno datblygiad cam cynnar prosiectau cadwyn gyflenwi'r DU sy'n gwasanaethu'r sector ynni ar y môr, a lleihau eu risg.
Mae'n cefnogi prosiectau sy’n bodoli eisoes ac sydd ar gam cynnar i ehangu’n gyfleoedd buddsoddi cyfalaf deniadol, gan helpu i yrru'r galw am swyddi a sgiliau newydd.
Ar ôl pasio Deddf Ystad y Goron 2025, mae'r ail rownd hon wedi'i hehangu i gynnwys porthladdoedd y DU a seilwaith sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd er mwyn cefnogi gwaith adeiladu, cydosod, gweithgynhyrchu, gweithrediadau a chynnal a chadw, a storio gwlyb ar gyfer ynni ar y môr sefydlog ac arnofiol, yn ogystal â chyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n cefnogi’r defnydd ohono.
Gall busnesau wneud cais am hyd at £1.5 miliwn fesul prosiect cymwys, gydag Ystad y Goron yn darparu cyllid cyfatebol o 50% ar gyfer gwariant datblygu ar y cam cynnar.
Byddwn hefyd yn chwilio am yr opsiwn i gymryd rhan yn y cam buddsoddi cyfalaf.
Bydd y ffenestr ymgeisio yn cau ddydd Gwener 27 Mehefin 2025.
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn ar ôl asesu ceisiadau, negodi cytundebau cyllid ac ymrwymiad a chael y cymeradwyaethau angenrheidiol.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Supply Chain Accelerator Fund | The Crown Estate