Cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, fod busnesau twristiaeth a lletygarwch ledled Cymru yn cael eu hannog i wneud cais am gynllun grant newydd gwerth £2 miliwn i wella hygyrchedd a chreu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr.
Mae'r cynllun grant Croeso i Bawb yn cael ei lansio heddiw i gefnogi gwelliannau ymarferol sy'n helpu i gael gwared ar rwystrau i ymwelwyr anabl a'r rhai sy'n teithio gyda nhw.
Bydd y cynllun yn helpu busnesau i wneud newidiadau sy'n galluogi mwy o bobl i gynllunio a mwynhau eu hymweliad yn hyderus, gan gefnogi uchelgais ehangach Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n gyrchfan fwy hygyrch a chroesawgar i bawb.
Gallai prosiectau gynnwys toiledau ac ystafelloedd gwely hygyrch, dolenni clyw gwell, mannau chwarae cynhwysol, mannau synhwyraidd, mannau gorffwys, seddi awyr agored hygyrch a llwybrau gwell i ymwelwyr sy'n sicrhau bod mannau ymwelwyr yn fwy croesawgar a phleserus i bawb.
Er mwyn helpu gyda'r broses ymgeisio, bydd busnesau'n gallu defnyddio canllawiau a phecyn cymorth ymarferol.
Cafodd hyn ei greu mewn cydweithrediad â PIWS, sefydliad nid-er-elw yng Nghymru, i annog ymgeiswyr i ystyried pob cam o brofiad ymwelwyr, deall yr hyn sy'n gweithio'n dda, nodi rhwystrau, a blaenoriaethu gwelliannau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Gofynnir i fusnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch gyflwyno ceisiadau erbyn 21 Medi 2026.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Cynllun gwerth £2 miliwn i helpu i wneud twristiaeth a lletygarwch yn fwy hygyrch | LLYW.CYMRU.