Newyddion

Cynllun Cyllido Grantiau yn y Sector Gwirfoddol a Chymunedol CThEF

group of people using laptops

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi addo mwy na £11 miliwn i gefnogi cwsmeriaid sydd angen help ychwanegol, wrth iddo lansio rownd ddiweddaraf ei Gynllun Cyllido Grantiau yn y Sector Gwirfoddol a Chymunedol.

Gall sefydliadau'r sector gwirfoddol a chymunedol gyflwyno cynigion i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol i gwsmeriaid CThEF a allai fod angen help ychwanegol gyda'u materion treth, rhyngweithio â'i wasanaethau digidol, sy'n parhau i ehangu, neu hawlio hawliau.

Rhaid i sefydliadau sy'n gwneud cais am y cyllid ddangos eu bod yn gallu darparu cymorth annibynnol wedi'i deilwra i gwsmeriaid a allai brofi rhwystrau, gan gynnwys y rhai:

  • a allai wynebu anawsterau o ran deall eu rhwymedigaethau treth
  • a allai fod ag anghenion cymhleth
  • sydd wedi’u hallgáu'n ddigidol rhag manteisio ar wasanaethau CThEF

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 3 Gorffennaf 2026 11.59pm.

Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Cyllido Grantiau yn y Sector Gwirfoddol a Chymunedol, cymhwysedd ac i wneud cais, ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.