
Mae Cronfa Rosa Rise yn rhoi cyllid datblygu sefydliadol i sefydliadau nid er elw ar gyfer merched a menywod ar draws y DU a gaiff eu harwain gan bobl Ddu ac o hil leiafrifedig.
Mae'r cyllid ar gyfer gwaith datblygu sefydliadol sy'n ymwneud â meysydd fel strategaeth, llywodraethu, arweinyddiaeth, cynghreiriau a phartneriaethau, cyllid, dangos effaith a systemau a phrosesau.
Mae'r gronfa’n cynnig grantiau dwy flynedd gwerth hyd at £40,000 i sefydliadau sydd ag incwm rhwng £30,000 a £300,000.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Llun 23 Mehefin 2025 am 4pm.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: The 2025 Rosa Rise Fund - Rosa