
Nod y gronfa hon yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.
Ai hon yw'r rhaglen iawn i chi?
- Ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru?
- A oes angen ariannu arnoch i gynllunio neu gyflwyno prosiect sy'n seiliedig ar fyd natur?
- A yw eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru o fewn ac o amgylch y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig?
Os gwnaethoch chi ateb yn gadarnhaol i'r cwestiynau hyn, yna mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn addas i chi.
Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw gwella cyflwr a chydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig. Mae'n elfen allweddol o gyflwyno Rhaglen Rhwydweithiau Natur ehangach Llywodraeth Cymru.
Amserlen ymgeisio a dyddiadau allweddol
Ar gyfer grantiau rhwng £50,000 a £250,000:
- Terfyn amser ar gyfer yr Ymholiad Prosiect: 12 hanner dydd ar 14 Gorffennaf 2025
- Terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 26 Medi 2025
Ar gyfer grantiau rhwng £250,000 ac £1 miliwn:
- Terfyn amser ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb: 12 hanner dydd ar 12 Awst 2025
- Terfyn amser ymgeisio: 12 hanner dydd ar 18 Tachwedd 2025
Mae'r cynllun yn agored i bob tirfeddiannwr preifat a sefydliad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o feddu ar y caniatadau, y trwyddedau a'r cydsyniadau cywir sydd eu hangen i ymgymryd â gweithgaredd ar y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos, a'ch bod wedi sicrhau'r rhain yn barod neu'n gweithio tuag at eu sicrhau. Mae'n rhaid i'r ardal yr ydych yn ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi’ch lleoli unrhyw le yn y DU.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth: Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd 5) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol