Bydd y Prif Weinidog yn arwain Cymru mewn eiliad o fyfyrdod ar 21 Hydref i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, gan fynychu'r digwyddiad coffa swyddogol gyda'r Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams AS, Ymddiriedolwyr Aberfan a chynrychiolwyr cymunedol.
Yn y drychineb yn 1966 collwyd 144 o fywydau, gan gynnwys 116 o blant. Gwahoddir sefydliadau ledled Cymru i gynnal munud o dawelwch am 9.15am, mewn ffordd sy'n briodol iddyn nhw.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cymru i nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan | LLYW.CYMRU.