Newyddion

Bydd tasglu newydd yn 'hyrwyddo dyfodol canol trefi Cymru'

New taskforce will ‘champion the future of Welsh town centres’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyd-gadeiryddion y Tasglu Canol Trefi newydd, ochr yn ochr â £1 miliwn o gyllid newydd i gefnogi prosiectau adfywio ym Mangor a Phen-y-bont ar Ogwr.

Bydd Tamsin Ramasut a'r Athro Simon Gibson CBE yn arwain y tasglu, a fydd yn darparu cyngor ymarferol ac arbenigol ar gefnogi dyfodol canol trefi Cymru. Mae eu penodiad yn cyflawni ymrwymiad allweddol y Llywodraeth i sefydlu'r tasglu o fewn ei 100 diwrnod cyntaf.

Gan weithio gydag aelodau o fusnes, llywodraeth leol, adfywio, cynllunio, y byd academaidd a chymunedau, bydd y cyd-gadeiryddion yn goruchwylio rhaglen waith i ddatblygu argymhellion ymarferol i Weinidogion Cymru ar sicrhau dyfodol canol trefi.

Mae Tamsin Ramasut yn ymarferydd profiadol ym maes adfywio, creu lleoedd ac ymgysylltu â'r gymuned. Trwy ei gwaith gyda Pont Collective a rolau blaenorol, mae wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau adfywio a mentrau seiliedig ar leoedd ledled Cymru a thu hwnt. 

Mae'r Athro Simon Gibson CBE yn hwylusydd arloesedd Cymru ers amser maith. Fel sylfaenydd Alacrity ac yn ei rolau arwain blaenorol yn Wesley Clover ac Awdurdod Datblygu Cymru, mae wedi helpu i ddenu buddsoddiad, cefnogi entrepreneuriaeth a sbarduno twf busnes ledled Cymru, profiad a fydd yn amhrisiadwy i waith y Tasglu.

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â phrosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng nghanol tref Bangor, lle cadarnhawyd £654,000 ar gyfer gwelliannau i dir y cyhoedd hefyd. Mae £350,000 arall wedi'i gadarnhau i gefnogi'r gwaith o adfywio Canolfan Siopa'r Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Bydd tasglu newydd yn 'hyrwyddo dyfodol canol trefi Cymr | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.