
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesol sydd â photensial masnachol cryf i wella economi’r DU yn sylweddol.
Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fusnesau micro, bach a chanolig (BBaChau). Rhoddir benthyciadau Innovate UK i brosiectau ymchwil a datblygu arloesol sydd ar gam datblygedig ac sydd â llawer o botensial ar gyfer y dyfodol. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn dangos llwybr amlwg tuag at fasnacheiddio a chael effaith economaidd.
Mae'n rhaid i'ch prosiect arwain at greu cynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd arloesol sydd yn gam sylweddol ymlaen o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, neu gynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Gall hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol.
Rhaid i'ch prosiect ganolbwyntio ar un neu fwy o feysydd economi’r dyfodol sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gweithredu Innovate UK (sero net, iechyd a lles, a thechnolegau digidol y genhedlaeth nesaf).
Mae'n rhaid i chi allu dangos eich bod:
- angen arian cyhoeddus
- yn gallu talu taliadau llog
- yn gallu ad-dalu'r benthyciad ar amser
Mae rownd 20 bellach ar agor a bydd yn cau ar 7 Mai 2025.
Bydd yr arian sydd ar gael yn cael ei ddyrannu ar draws cyfres o gystadlaethau, gyda'r rownd nesaf yn agor ar y diwrnod ar ôl i’r rownd flaenorol gau:
- Bydd rownd 21 yn agor ar 8 Mai 2025 ac yn cau ar 2 Gorffennaf 2025
- Bydd rownd 22 yn agor ar 3 Gorffennaf 2025 ac yn cau ar 27 Awst 2025
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Innovate UK innovation loans future economy: Round 20 - Innovate UK Business Connect
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru