Mae Arolwg blynyddol ‘Tell ABAB’ (Bwrdd Cynghori Baich Gweinyddol) bellach ar agor i'w gwblhau.
Mae'r arolwg yn cael ei gomisiynu gan gorff annibynnol, ABAB, sy'n rhoi mewnwelediad i CThEF ar y materion mawr sy'n wynebu busnesau bach, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cofnodi fel asiantau treth yn y system dreth. Nod ABAB yw cefnogi CThEF i wneud y system dreth yn gyflymach ac yn symlach i fusnesau bach.
Mae'r arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau, a bydd ar agor tan 29 Ebrill 2026. Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK erbyn Hydref 2026, yn Adroddiad ‘Tell ABAB’.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg: Tell ABAB Survey 2026.