Ein Mentoriaid
Hidlo yn ôl
251 canlyniad
Busnes:
?
Rydw i wedi rhedeg nifer o fusnesau bach a chwmni Hyfforddi Bywyd a Busnes Selva yw’r un diweddaraf.
Busnes:
Network She HCP Ed-UK
Dim mwy o boeni am sut i ddatrys problem neu chwalu rhwystrau. Cyflwynwch eich her a bydd Ruth Lloyd-Williams yn dod o hyd i’ch datrysiad.
Busnes:
SavvySally
Fi yw sylfaenydd cwmni SavvySally, cwmni ymgynghorol rheoli busnes a gweithrediadau sy’n cefnogi busnesau newydd a busnesau bach ar draws Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Rwy’n arbenigo mewn helpu perchnogion busnesau newydd a busnesau yn eu camau cyntaf i adeiladu sylfeini cryfion, rhoi systemau syml ar waith, a sicrhau eglurdeb a hyder yn y ffordd maent yn rhedeg eu busnesau.Mae fy nghefndir yn cynnwys rheoli swyddfa, cydlynu prosiectau, cadw llyfrau, sefydlu systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, cefnogaeth gyda thendro a cheisio am gytundebau a rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd. Rydw i wedi gweithio gydag ystod o sefydliadau, gan gynnwys cwmnïau ymgynghori ym maes peirianneg, arbenigwyr ynni ac amgylcheddol, cwmnïau buddiant cymunedol a busnesau bach a chanolig sy’n seiliedig ar wasanaethau. Mae llawer o’m gwaith yn cynnwys cynnig cefnogaeth y gellir ymddiried ynddo i sylfaenwyr busnesau sy’n cymryd eu camau cyntaf ym myd busnes, gan hefyd sicrhau cydbwysedd rhwng darparu, gweinyddu, cyllid a thwf.
Mae gen i gymhwyster PRINCE2 Sylfaenol, a byddaf yn cwblhau cwrs Ymarferydd PRINCE2, gan roi sylfaen gref i mi ym maes rheoli prosiect, cynllunio, ymwybyddiaeth o risgiau a chyfathrebu clir. Mae gen i brofiad o sefydlu a symleiddio systemau gan ddefnyddio adnoddau megis HubSpot, ClickUp, MailerLite, Excel, a Google Workspace, gan ganolbwyntio bob amser ar yr hyn sy’n briodol ac yn gyraeddadwy ar gyfer busnes newydd yn hytrach na gor-gymhlethu pethau.
Mae fy nghryfderau craidd yn cynnwys sgiliau trefnu, datrys problemau a throsi heriau busnes cymhleth neu lethol yn gamau gweithredu clir a chyraeddadwy. Rwyf yn arbennig o fedrus wrth helpu busnesau newydd i ddeall eu cyllid, trefnu eu llwyth gwaith, blaenoriaethu’n effeithiol, a chreu prosesau sy’n cefnogi twf cynaliadwy o’r cychwyn cyntaf.
Fel mentor, rwy’n cynnig arddull tawel, agos atoch, heb farnu. Gan fy mod wedi cael budd o wasanaeth mentora Busnes Cymru yn bersonol, rwy’n deall yr heriau y mae perchnogion busnes newydd yn eu hwynebu, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol, hyder ac eglurdeb, gan rymuso menteion i wneud penderfyniadau deallus a symud ymlaen yn hyderus.
Busnes:
?
Mae Sally yn fentor busnes cydnabyddedig sy'n cynnig dull newydd o weithredu trawsnewid personol a rhagoriaeth mewn busnes.
Busnes:
Strong Training Ltd
Ar ôl bron i ddegawd fel uwch ymgynghorydd hyfforddiant a chyfarwyddwr cwmni yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, roeddwn yn dyheu i fod yn hunangyflogedig a pharhau i helpu eraill i dyfu a datblygu yn eu gyrfaoedd.
Busnes:
?
Mae gan Sarah gefndir manwerthu a hithau wedi gweithio i Tesco a B&Q. Mae Sarah wedi lansio cylchgrawn cenedlaethol ac wedi ysgrifennu llyfrau. Mae hi wedi ennill gwobr Busnes Manwerthu y Flwyddyn.
Busnes:
?
Rwy’n hynod falch o fod wedi derbyn y cynnig i fod yn Fentor gan Busnes Cymru, a chynnig fy sgiliau a phrofiad i entrepreneuriaid Cymru.
Busnes:
Sanctuary Financial Planning
Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes cyllid ers 2005, gan gychwyn mewn canolfan alwadau Woolwich a symud ymlaen i fod yn ymgynghorydd ariannol yn Lloyds a dod yn ymgynghorydd/cynllunydd ariannol hunangyflogedig yn 2009.
Busnes:
The Forge
Siaradwr CymraegFi yw cyfarwyddwr sefydlu The Forge sy'n arbenigo mewn encilfeydd llesiant, gan harneisio pŵer byd natur a'r awyr agored i ddod â newid go iawn ym mywydau pobl. Yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a dad-ddofi, mae The Forge yn galluogi pobl i brofi byw oddi ar y grid a throchi mewn byd natur fel lifer i'w helpu i ddod o hyd i gydbwysedd gwell yn eu bywydau.
Rwyf hefyd yn weithiwr proffesiynol ymgynghori Rheoli Newid ac Amrywiaeth a Chynhwysiant gydag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda rhai o sefydliadau mwyaf y byd i alluogi trawsnewidiadau diwylliannol a sefydliadol mawr.
Fi yw cyfarwyddwr sefydlu The Forge sy'n arbenigo mewn encilfeydd llesiant, gan harneisio pŵer byd natur a'r awyr agored i ddod â newid go iawn ym mywydau pobl. Yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a dad-ddofi, mae The Forge yn galluogi pobl i brofi byw oddi ar y grid a throchi mewn byd natur fel lifer i'w helpu i ddod o hyd i gydbwysedd gwell yn eu bywydau.
Rwyf hefyd yn weithiwr proffesiynol ymgynghori Rheoli Newid ac Amrywiaeth a Chynhwysiant gydag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda rhai o sefydliadau mwyaf y byd i alluogi trawsnewidiadau diwylliannol a sefydliadol mawr.
Meysydd f'arbenigedd yw: Amrywiaeth a Chynhwysiant, Strategaeth Newid, Newid Diwylliant ac Ymddygiad, Rheoli Rhanddeiliaid, Datblygu Arweinyddiaeth, Rheoli Rhaglenni, a Chydnabyddiaeth ac Ymgysylltu Gweithwyr.
Mae gennyf Radd MA (Dosbarth Cyntaf) mewn Saesneg a Ffrangeg a MLlen (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Hunaniaeth Ddiwylliannol Ewropeaidd o Brifysgol St Andrew's.
Mae gennyf hefyd Tystysgrif mewn Rheoli Newid i Raddedigion o Ysgol Reolaeth Awstralia i Raddedigion ac wedi cwblhau Tystysgrif Academi Marchnata ar-lein yn 2022.
Rwy'n frwdfrydig ynghylch helpu eraill i wireddu eu hamcanion busnes a phersonol ac rwyf wedi bod yn gynghorydd gyrfa, hyfforddwr a mentor i dros 20 o bob yn ystod fy ngyrfa. Rwy'n cael fy ysbrydoli'n arbennig gan alluogi eraill i fanteisio ar eu set sgiliau trosglwyddadwy a chymhwyso eu profiad a'u galluoedd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.
Y tu allan i waith, rwy'n rhedwr llwybrau a nofiwr dŵr gwyllt brwd ac ar hyn o bryd rwy'n ymgymryd ag ymchwil gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i fanteision therapi poeth ac oer ar gyfer iechyd meddwl, corfforol a chymdeithasol a chysylltiad. Yn ddiweddar, teithiais i'r Ffindir i drochi fy hun mewn profiad sawna'r Ffindir ac rwy'n dysgu Ffinneg ar hyn o bryd.
Busnes:
Focused Minds CT Ltd
Meithrin prosesau sylfaenol ar gyfer busnesau bachCydlynu arferion busnes a sylfaen staff
Creu cysylltiadau cwsmer gwerthfawr
Sefydlu arferion er budd llesiant/iechyd meddwl cadarnhaol Staff ac Unigolion.
Gwaith cleient un-i-un - hypnotherapi clinigol a hyfforddiant meddylfryd