BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: Natasha Kennedy
Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad entrepreneuraidd, rydw i wedi adeiladu ac ehangu nifer o fusnesau gwasanaeth yn y sector addysg a’r sector hyfforddi.
Busnes: ?
Ganwyd Neil Franklin yn y Deyrnas Unedig ac mae’n entrepreneur sydd wedi ennill gwobrau.
Busnes: Caer Health Services
Perchennog busnes hynod brofiadol, mentor a hyfforddwr.
Neil Hill
Busnes: A.C.L
Mae Nick Bradley yn ŵr busnes profiadol sydd, dros y pum mlynedd ar hugain ddiwethaf, wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol gydag entrepreneuriaid, busnesau newydd a chwmnïau ifanc sydd yn y camau cychwynnol.

Mae'n raddedig o Brifysgol Bangor ac mae wedi gweithio yn Ffrainc, y Swistir a'r Almaen. Bu'n gyflogedig gan gwmni Americanaidd Rhyngwladol am saith mlynedd. Bu hefyd yn gweithio yn y diwydiannau cemegol ac electronig, ym myd mân-werthu ac yn y maes meddygol.

Mae Nick yn entrepreneur o fri sydd wedi dechrau ei fusnes ffibr optig ei hun gan fynd ymlaen i adeiladu cwmni roboteg, busnes anrhegion rhyngwladol a chwmni argraffu arbenigol.

Am ddeuddeg mlynedd gweithiodd fel Uwch Fentor o dan y Cynllun Mentora Hŷn DTI, gan fentora dros ddeg ar hugain o fusnesau am gyfnodau o hyd at ddwy flynedd. Y mae hefyd wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws Cymru gyfan fel ymgynghorydd marchnata allforion gyda Busnes Cymru Rhyngwladol. Mae gan Nick wybodaeth bersonol am allforio cynnyrch meddygol, offeryniaeth, crefft, cynnyrch ac anrhegion defnyddwyr i Ewrop, Goledd America a'r Dwyrain Pell.

Am bedair blynedd bu Nick yn darlithio mewn Entrepreneuriaeth fel Academydd ar Ymweliad ym Mhrifysgol Bangor ac am bymtheg mlynedd roedd yn Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Xenos - Rhwydwaith Busnes Angel Cymru.

Dros y 12 mlynedd ddiwethaf, mae wedi gweithio gydag entrepreneuriaid 18-30 oed fel Mentor Gwirfoddol gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog a thros y 16 mlynedd ddiwethaf mae wedi bod yn Fentor Gwirfoddol gyda Prime Cymru gan helpu rhai dros 50 oed gyda'u syniadau busnes.

Sefydlodd Nick Anglesey Consultants Ltd er mwyn darparu cefnogaeth marchnata, ymchwil y farchnad a mentora i gwmnïau yng Nghymru, i annog busnesau newydd a darparu cymorth gyda datblygu cynlluniau busnes a chynyddu twf ariannol.

Mae diddordebau amser hamdden Nick yn cynnwys hwylio pellteroedd hir, mynydda a chwarae bridge.
Busnes: ?
Nick yw Rheolwr Gyfarwyddwr EvaBuild Ltd, Cwmni Adeiladu a Pheirianneg Sifil arobryn yn y canolbarth.
Busnes: ?
Rwy’n weithiwr proffesiynol ym maes rheoli perfformiad gwerthiannau uchel, marchnata a datblygu mewnwelediad gyda llwyddiant blaenorol o arwain gwerthiant, datrysiadau a datblygiadau busnes ar draws marchnadoedd uchel eu proffil, cystadleuol ac amrywiol.
Nicki Arthur
Busnes: One Habit Coaching
Rwy’n helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio 50+awr/wythnos i ddod o hyd i amser i symud a bwyta’n well er mwyn iddynt golli pwysau a theimlo’n fwy hyderus.
Nico Valla
Busnes: NJJ Business Solutions Ltd
Rwyf wedi gweithio yn y sectorau gweithgynhyrchu, adeiladu a hyfforddi ers dros 30 mlynedd, gyda dros 15 mlynedd o rolau arwain a chyfarwyddo.
Busnes: The Little Stitchery/Nicola Ridd-Davies Garment Design & Technology
Graddiais gyda Gradd Anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffasiwn, mae gennyf gymhwyster Torri Patrymau Uwch Telestia ar gyfer Darparwyr Hyfforddiant a dros 25 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant Ffasiwn, gan gynnwys 10 mlynedd gyda’r brand TOAST fel Torrwr Patrymau Dillad Merched a Dillad Dynion a Chydlynydd Technegol.
Busnes: Seriously Stylish Business
Gyda brwdfrydedd dros ddatblygu unigolion uchelgeisiol sy’n gweithio tuag at lwyddiant, rwy’n deall beth sy’n ofynnol i greu llwyddiant parhaol o’r tu mewn ac allan, gan ganolbwyntio ar eich diffiniad chi o lwyddiant - nid diffiniad rhywun arall.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.