BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: Firefleck Consulting and Therapy and Coaching Souk
Proffil
Hyfforddwr busnes sy’n gyfarwydd â’r maes, gyda thros 20 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant arweinyddiaeth therapiwtig. Rwy’n gallu rhoi dulliau sy’n ystyriol o drawma ar waith yn fedrus gyda busnesau a deinameg tîm yn arbennig felly yn sector lles. Rwyf wedi sefydlu pedwar busnes llwyddiannus ac wedi mentora dros 100 o therapyddion i ddechrau eu practisiau preifat eu hunain. Gyda dealltwriaeth o ffordd o feddwl entrepreneuraidd, mae gen i’r sgiliau i drawsnewid heriau busnes yn gyfleoedd i dyfu. Mae hanes busnes profedig yn cynnwys rheoli prosiectau, datblygu rhaglenni ac arweiniad arbenigol mewn arweinyddiaeth o fewn Busnesau Bychain a Chanolig, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol ac amgylcheddau masnachwyr unigol. Dysgais fwyaf o wneud camgymeriadau a rhoi cynnig arall arni.
Sgiliau Allweddol
Meddwl Entrepreneuraidd: Sefydlais bedwar busnes a’u hehangu, gan gynnwys practis therapiwtig preifat a gwasanaethau therapi holistig.
Datblygu Busnes Strategol: Gallu profedig i asesu modelau busnes, adnabod cyfleoedd i dyfu, a rhoi strategaethau effeithiol ar waith er mwyn cynyddu refeniw a chadw cleientiaid.
Rheoli Prosiect a Datrys Problemau: Gallu darparu gweithdai, rhaglenni hyfforddiant a chynlluniau busnes yn llwyddiannus, gydag arbenigedd mewn arwain timau a rheoli prosiectau cymhleth er mwyn cwrdd â nodau gweithredol.
Arweinyddiaeth a Deinameg Tîm Arbenigwr mewn mentora a hyfforddi arweinwyr a thimau er mwyn gwella perfformiad, galluoedd i arwain a llesiant iechyd meddwl drwy ddulliau sy’n ystyriol o drawma.
Addysg ac Ardystiad
Wedi derbyn addysg hyd at lefel Meistr mewn gwaith Cymdeithasol, Therapi, Goruchwyliaeth Glinigol a Hyfforddiant
Aelod Cyswllt y Cyngor Mentora a Hyfforddi Ewropeaidd (EMCC0)
Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) - Aelod Dan Hyfforddiant
Aelod o UKCP fel Seicotherapydd a Goruchwyliwr Cofrestredig
Aelod o GPTI fel Aelod Proffesiynol
Aelod o UKAGPS ac AAGT
None
Busnes: Heath Windows & Doors Ltd
Miall Hardwick yw Perchennog-Gyfarwyddwr Heath Windows & Doors Ltd, cwmni gwelliant cartref gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Gyda thros 14 mlynedd o brofiad arweinyddiaeth, mae Miall wedi tyfu’r busnes o fusnes newydd i fod yn un o frandiau gwydro mwyaf adnabyddus Cymru, wedi'i ategu gan ystafell arddangos o'r radd flaenaf, sy’n cael ei hystyried fel un o'r goreuon yn y wlad. Cyn sefydlu Heath Windows & Doors, adeiladodd Miall gefndir llwyddiannus ym maes gwerthu, gan ddatblygu sgiliau cyfathrebu, trafod ac arwain cryf. Mae ei arbenigedd yn cynnwys gweithrediadau, datblygu tîm, cynllunio ariannol, twf strategol, profiad cwsmeriaid a symleiddio penderfyniadau masnachol cymhleth. Mae'n cynnig dull ymarferol o fentora sy’n seiliedig ar y byd go iawn — gan ganolbwyntio ar eglurder, gwydnwch a helpu perchnogion busnes i dyfu'n gynaliadwy wrth gadw rheolaeth o’u rhifau, eu costau a’u prosesau ar yr un pryd.
Busnes: ?
Treuliais y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith ym maes Gweithrediadau Gweithgynhyrchu gan weithio mewn swyddi Rheoli Llinell a Rheoli Prosiect.
Busnes: ?
Rheolwr Cyffredinol uchel ei barch, entrepreneuraidd ac yn un sydd ag enw da yn fasnachol, gyda dros drideg mlynedd o brofiad wedi ei ennill yn y diwydiant lletygarwch gyda Stakis a Hilton Hotels.
Busnes: Angelic Healing
Rwyf yn Uwch Hypno-therapydd Clinigol ac yn Iachäwr Arbenigol.
Busnes: Mum Academy
Mae gan Shell Williams saith mlynedd o brofiad fel hyfforddwr a mentor cymwys i fusnesau bach.
Busnes: Amrywiol
Fy Nghyflawniadau
• Trosiant o dros £40mil yn ystod y 12 blynedd diwethaf
• Cyflogi dros 150 o staff
• Adeiladu pum busnes o’r newydd
• Gwerthu tri busnes
• Buddsoddi mewn llawer o fusnesau eraill ar hyn o bryd
Busnes: ?
Cefais fy ngeni yn Abertawe a dyna le ddechreuodd fy ngyrfa fel prentis trydanwr i gwmni contractio trydanol lleol.
Busnes: Casgliad rarebit Cymru
Mae Mike wedi treulio ei holl fywyd gwaith yn gweithio yn y sector lletygarwch.
Busnes: Active Property Solutions Ltd
Astudiodd Mike Astudiaethau Pensaernïaeth ac Adeiladu yn Abertawe, ac mae’n aelod o’r Sefydliad Siartredig Technolegwyr Archaeolegol (MCIAT)
Mike Woods

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.