BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Russell Bright

?

Cysylltu gyda Russell Bright


Russell Bright
Swyddogaeth:
Sector:
Lleoliad:
Vale of Glamorgan

Amdano

Rheolwr Gyfarwyddwr, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Anweithredol medrus sy’n gweithio ar lefel Bwrdd ac yn ysgogi twf a phroffidioldeb yn llwyddiannus. Profiad wedi’i ennill ar draws corfforaethau mawr o’r radd flaenaf, BBaChau a busnesau teuluol, yn mabwysiadu arddulliau rheoli priodol i gyflawni canlyniadau uchelgeisiol ym mhob un. 

Rwyf wrth fy modd yn mentora ac yn gweld pobl eraill yn llwyddo yn eu gwaith. Mae hyn yn rhywbeth y gwnes ei ddarganfod, er mawr syndod i mi, bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae mentora fy staff wedi golygu eu bod yn fwy abl i gyflawni hyd at eithaf eu gallu, sydd nid yn unig yn hwyl iddyn nhw, ond hefyd wedi cyfrannu’n fawr at lwyddiant fy nghwmnïau yn ystod fy 36 mlynedd ym myd busnes ac wedi arwain at fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr neu Brif Swyddog Gweithredol mewn sawl cwmni, yn ogystal â gwneud fy mywyd yn haws drwy gael timau sy’n perfformio’n dda. Erbyn hyn rwyf wedi ymddeol fwy neu lai ond rwy’n parhau i wneud ychydig o waith fel NED a mentor.  

Beth hoffech chi ei gyflawni? 

Gair i Gall

Daliwch ati i ddysgu, drwy wneud mwy o wrando na siarad. Trwy wrando ar fentor da byddwch yn tynnu’r gorau o’ch tîm, yn cyflawni canlyniadau gwell, ac yn gwneud eich bywyd eich hun yn haws. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.