BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Modelau rôl

Ruth Adams

?

Cysylltu gyda Ruth Adams



Ruth Adams
Swyddogaeth:
Perchennog a Hyfforddwr Bywyd
Sector:
Lleoliad:
Ceredigion

Amdano

Rydw i wedi rhedeg nifer o fusnesau bach a chwmni  Hyfforddi  Bywyd a Busnes Selva yw’r un diweddaraf.  Trwy fy llwyddiannau a methiannau a thrwy mynychu llawer o gyrsiau busnes a darllen llyfrau di-ri rydw i wedi ennill profiad a gwybodaeth am anawsterau a llawenydd rhedeg busnes meicro.

Cyn mentro i fyd busnes,  roeddwn yn gweithio i'r GIG fel Therapydd Galwedigaethol ym maes iechyd meddwl. O ganlyniad, mae gen i wybodaeth eang am les bositif iechyd meddwl. Dyma pam y dilynais y llwybr presennol  a hynny er mwyn ysbrydoli a chefnogi cleientiaid i gael eglurder, ffocws a chyfeiriad i’w bywydau.

Mae gennyf dystysgrif a diploma mewn Hyfforddi Bywyd a BSc (Anrhydedd) mewn Therapi Galwedigaethol.

Rydw i wedi cynnal sesiynau mentora a hyfforddi ar gyfer nifer o fusnesau bach o fewn y sector creadigol a’u hysbrydoli  a chefnogi twf eu busnesau.

Y sgiliau craidd a'r cryfderau sydd gennyf i gynnig yw:

Gwrando.  Adlewyrchol.  Darparu mewnwelediad a throsolwg, Ysgogi eglurder. Ysbrydoli twf a datblygiad.

Gair i Gall

Buddsoddwch ynddoch chi’ch hunan a’ch hunan-ddatblygiad boed trwy ddarllen, mynychu cyrsiau neu drwy fanteisio ar ffynonellau o gefnogaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.