BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ein Mentoriaid

Hidlo yn ôl

Sector
Ardal

251 canlyniad

Busnes: The Roach Coach
Rwy’n Hyfforddwr Gweithredol â chymhwyster Lefel 7 ILM. Rwy’n angerddol iawn dros ysbrydoli eraill i gydnabod a gwneud y mwyaf o’u hapusrwydd, boed hynny yn eu hamgylchedd gwaith, yn eu perthnasoedd neu yn eu bywydau personol. Mae gwella ein hapusrwydd yn gwella ein lles ac mae’r buddion yn bellgyrhaeddol.
Busnes: The HR Partnership
Mae Simon Drinkwater yn arweinydd AD profiadol sy’n cael ei yrru gan werthoedd, ac sydd â thros ddau ddegawd o brofiad ymarferol, strategol a gweithrediadol ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys technoleg, gofal iechyd, addysg, gwasanaethau ariannol a gwasanaethau proffesiynol. Fel Aelod Siartredig o’r CIPD (MCIPD) mae Simon yn cyfuno sylfaen academaidd mewn Gweinyddu Busnes a Rheoli Adnoddau Dynol gydag achrediadau proffesiynol mewn Hyfforddi NLP, asesiadau deallusrwydd emosiynol, ac offer proffilio seicometrig (OPQ32, SHL). Mae ei yrfa yn cynnwys siapio a gweithredu strategaethau AD yn llwyddiannus ar gyfer amgylcheddau twf uchel a trawsffurfiadol fel ei gilydd. Mae ganddo hanes profedig o gyflawni mentrau sy’n creu traweffaith megis rhaglenni newid diwylliannol, fframweithiau datblygu talent, systemau rheoli perfformiad a dyfeisiadau newydd AD digidol. Mae ei gyflawniadau nodedig yn cynnwys arbedion costau sylweddol drwy fodelau recriwtio uniongyrchol, rhoi platfformau dysgu ‘Agile’ a datblygu ar waith, ac arwain ailstrwythuro strategol.

Cryfderau craidd Simon yw gallu dylanwadu ar uwch randdeiliaid a’u hyfforddi, arwain newid sefydliadol, a meithrin diwylliannau perfformiad uchel. Mae ei ddull o weithredu yn golygu ei fod yn effro iawn yn fasnachol a hefyd yn ffocysu llawer ar bobl - gan ddod â llonyddwch, persbectif a mymryn o hiwmor i sefyllfaoedd sy’n aml yn rhai cymhleth a heriol.
Ar gyfer perthynas fentora, mae Simon yn cynnig gwybodaeth arbenigol AD ac arweinyddiaeth, ffordd o feddwl bragmatig a dull cefnogol, ond gonest o weithredu. Mae ei werthoedd personol - ymddiriedaeth, gwytnwch a thwf parhaus - yn amlwg yn y modd y mae’n cefnogi eraill, gan feithrin amgylcheddau lle mae dysgu a pherfformio’n ffynnu. Mae ei brofiad ar draws amrywiol ddiwydiannau a chamau busnesau yn ei wneud yn arweinydd sy’n gallu addasu, a dangos empathi gyda mewnwelediadau sydd yn rhai strategol a hefyd yn seiliedig ar y byd go iawn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod i ble rydych chi’n ceisio mynd (Pwrpas, Gweledigaeth) hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod yn iawn sut i gyrraedd yno. Bydd y manylion ynghylch sut y byddwch yn cyrraedd yno yn dod yn fwy eglur cyn belled â’ch bod yn dechrau’r daith ac yn gwneud penderfyniadau’n gyson rydych chi’n credu y byddant yn cefnogi eich gallu i gyrraedd pen y daith.
Busnes: Elliots Hill Care Ltd
Cadwch lygad ar yr amgylchedd, sicrhewch fod eich Bûm yn gwasanaethu am 5 mlynedd fel Swyddog Milwyr Traed yn y Fyddin Brydeinig cyn gadael i ddod yn Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Ymgynghoriaeth Risg i Ddiogelwch wedi ei lleoli yn Llundain.
Simon Paul Clarke
Busnes: BrainAlly Strategy
Gyda thros 25 mlynedd o brofiad yn rheoli busnes, adeiladu brand a deall y cwsmer gyda chwmnïau sy’n enwog yn rhyngwladol, megis PepsiCo a Kellogg’s, mae gan Sioned hanes profedig o gyflawni strategaethau cymhellol er mwyn gyrru refeniw ac optimeiddio gwerth. Dyma rai enghreifftiau:
• Arloesi gyda dull o gynllunio lle mae’r defnyddiwr yn ganolbwynt iddo a arweiniodd at strategaeth dros sawl blwyddyn ar gyfer un o frandiau snaciau mwyaf Ewrop. Dyrchafu ei hanfodion bwyd er mwyn sicrhau ei fod yn torri i mewn i’r farchnad yn gynyddol.
• Ailddyfeisio brand sudd ffrwythau mwyaf Ewrop, gan symud y brand yn ei flaen a sicrhau twf yn Ffrainc am y tro cyntaf mewn 3 blynedd.
• Datblygu cysyniad a lansio brand grawnfwyd i oedolion ifanc sydd wedi bod yn llwyddiant yn fyd-eang.
• Cyflawni cynhyrchiant elw a cholled arwyddocaol drwy sicrhau arbenigedd mewnwelediad mewnol mewn hybiau ar hyd a lled y byd ar gyfer sicrhau bod penderfyniadau mwy cadarn a chyflym yn cael eu cymryd.

Y prif feysydd y gall Sioned ddod â gwerth iddynt –
• Strategaeth Brand - dealltwriaeth o’r gynulleidfa darged ar gyfer eich cynnig, yr hyn maent yn chwilio amdano a sut y gallwch sicrhau eu bod yn dewis eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth yn hytrach na’ch cystadleuwyr.
• Rhagoriaeth yn y Broses Farchnata - prosesau y gellir eu cynnal eto er mwyn uwchsgilio timau mewnol i gyflawni strategaethau cryfach.
Busnes: Gymraeg Consulting
Gweithiwr proffesiynol sy’n brofiadol iawn mewn Cyllid, Cyfrifyddu a Chaffael gyda dros 15 mlynedd o arbenigedd traws-sector, gan gynnwys swyddi arwain mewn llywodraeth leol, GIG, gofal iechyd preifat a seilwaith. Gan arbenigo mewn trawsnewidiad ariannol, cynllunio strategol, gweithredu systemau, a rheoli contractau, rwyf wedi arwain rhaglenni newid mawr a thimau cyllid drwy gyfnodau o ddiwygiad a thwf.
Busnes: ?
Bum yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog am 20 mlynedd.
Busnes: Amatsu centre – Amatsu & Acupuncture Therapy
Mae gennyf gefndir o weithio dros 30 mlynedd mewn sawl diwydiant gwahanol, megis y diwydiant dur ac adeiladu, electroneg, modurol, manwerthu, iechyd yn ogystal â’r diwydiant bwyd a diod.
Busnes: Autosales Systems Ltd
Ar ôl treulio ieuenctid afradlon yn dringo ac yn mynydda o amgylch Ewrop a Gogledd America, pan oeddwn yn 30 oed penderfynais fynd i weithio i’r byd gwerthu, gan symud o yswiriant i feddalwedd gyfrifiadurol.
Busnes: RCMA Social Enterprise Ltd
Fel Sylfaenydd a chyn Gadeirydd RCMA Social Enterprise Ltd., rwyf wedi helpu i lywio Marchnad Ffermwyr arobryn Glan yr Afon Caerdydd drwy dros ugain mlynedd o dwf, ac wedi cychwyn sawl menter gysylltiedig, gan gynnwys sefydlu menter arddwriaeth ar raddfa fach sy'n tyfu llysiau organig i'w bwyta'n lleol, sydd bellach wedi'i datblygu fel cydweithfa i weithwyr.
Busnes: The Business Disruptor
Cynghori ar Reolaeth Gorfforaethol:
Newidiadau/Datblygiad- Asesiad o’r Sefyllfa Bresennol/Cynllunio

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.