Cwestiynau Cyffredin (FAQs)

Oes gen ti gwestiwn am Helo Blod? Falle bod yr ateb isod yn ein cwestiynau cyffredin...

Ry’n ni’n gweithio yn ôl mis calendr – felly, o ddiwrnod cyntaf pob mis, cei di ddechrau defnyddio'r 500 gair newydd ar gyfer y mis hwnnw.  

Wrth gwrs, mae’n bosibl rhannu dy gyfieithiadau dros y mis, ond cofia wirio nad wyt ti’n mynd dros dy 500 gair. Gallwn dderbyn hyd at ddeg cais y mis. 

Yn anffodus, chei di ddim talu Helo Blod i gyfieithu mwy na 500 gair y mis. Ond, gallwn dy gyfeirio di at gyfieithwyr annibynnol drwy Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mi wnawn ni'n gorau, ond allwn ni ddim addo gwneud. Fel rheol, ry’n ni’n gwneud ein gorau i ddychwelyd gwaith o fewn 4 diwrnod gwaith: 

  • Cyfieithu byr (1–5 gair) — 1 diwrnod gwaith 
  • Cyfieithu hirach (6–500 gair) — 4 diwrnod gwaith 
  • Gwirio testun — 4 diwrnod gwaith 

Cysyllta gyda ni ac mi wnawn ni’n gorau i dy helpu. Mae pob cais yn bwysig inni, felly ni allwn roi blaenoriaeth i unrhyw unigolyn.  

Os wyt ti angen cyfieithiad ar frys, cysyllta gyda chyfieithydd annibynnol drwy Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Ry’n ni’n gweithio gydag Uned Gopïo Llywodraeth Cymru, sy’n gallu trosi ymatebion Helo Blod o'r Gymraeg a'r Saesneg i Braille neu fformat print bras.  

Mae'r gwasanaeth yma am ddim hefyd, ond mae angen ychwanegu diwrnod neu ddau at yr amser cyfieithu / gwirio arferol.   Dyma ambell beth i'w gofio: 

  • Gwna’n siwr fod unrhyw destun Saesneg i'w drosi i Braille, mewn fformat Dogfen Word, ffont Arial 12pt, dim lluniau, graffiau, tablau, colofnau, pennyn, na throedyn. 
  • Dilyna’r un rheolau wrth lwytho testun Cymraeg, — a chofia nad yw Braille yn adnabod acenion, felly dim to bach ac ati! 
  • Os oes angen cyfieithu testun Saesneg i Gymraeg, ac yna i Braille, gad i ni wybod. 

Gyda llaw, os wyt ti eisiau trosi print yn fformat sain, mae RNIB (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall) yn gallu dy helpu di. Cysyllta â'r Ganolfan Trawsgrifio ar 029 2082 8540, dros e-bost, cardifftranscription@rnib.org.uk, neu cer i'w gwefan.

Dim problem, ond bydd angen dilyn ambell gam ychwanegol.   Cysyllta â ni (03000 25 88 88) i gael canllaw defnyddiol a / neu gallwn ni egluro popeth dros y ffôn. 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Mae'n dibynnu ar gynnwys y ffeil. Os mae’n bosibl dewis y testun a'i symud i ffeil Word neu .txt, yna gallwn ni helpu. Ond, allwn ni ddim cyfieithu testun sydd mewn lluniau.   

Ddim yn siŵr am gynnwys dy ffeil? Cysyllta â ni (03000 25 88 88) a mi wnawn ni ddatrys y mater gyda'n gilydd. 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

O na! Ffonia ni ar 03000 25 88 88 er mwyn i ni dy helpu di. 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

Na.  Mae 500 gair o gyfieithu ar gael i bob busnes / elusen / sefydliad mewn mis.  Mae angen i chi  gytuno ar y 500 gair i'w hanfon atom bob mis. 

Siwr iawn!  Ond cofia, dim ond 500 gair y gallwn ni’i gyfieithu i'r busnes / elusen / sefydliad bob mis. 

Mae pob cyfrif 'Helo Blod a Fi' yn gwbl breifat, hyd yn oed os ydyn nhw’n gysylltiedig â'r un busnes. Does dim modd i ni rannu gwybodaeth am gyfrif rhywun gyda neb arall. 

Methu gweld ateb i dy gwestiwn? 

Beth am yrru cwestiwn i ni o dy gyfrif 'Helo Blod a Fi', neu cysyllta â ni (03000 25 88 88).  Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

Mae'r llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm.