Ganwyd Securanova o rwystredigaeth gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi llywio'r farchnad seiberddiogelwch: gormod o gyngor generig a dim digon o welliant ystyrlon mewn diogelwch. Adeiladwyd y cwmni yng Nghasnewydd ar ragdybiaeth wahanol: y dylai profion a sicrwydd gael eu cyflwyno gan ymgynghorwyr dibynadwy, elitaidd, gyda chymorth platfform wedi'i alluogi gan AI sy'n gallu tyfu heb leihau ansawdd. O fewn ei flwyddyn gyntaf, cyflawnodd Securanova achrediadau ISO 9001, ISO 27001, Cyber Essentials Plus a CREST a sicrhaodd gleientiaid mawr gan gynnwys y cwmni cyfreithiol byd-eang Freshfields. Yma, mae'r Prif Swyddog Gweithredol a'r cyd-sylfaenydd Nathan Jones yn esbonio sut y gwnaeth cymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru eu helpu nhw i droi'r weledigaeth sylfaenol honno yn fusnes credadwy sy'n tyfu'n gyflym.
Pa fwlch a welsoch chi yn y farchnad, a sut yr aeth Securanova ati i’w llenwi?
Roedd y seiberfarchnad yn rhanedig, a gormod o sefydliadau yn derbyn profion blychau ticio ac allbynnau a yrrir gan gydymffurfiaeth nad oeddent yn gwella eu diogelwch yn ystyrlon. Yn y cyfamser, roedd gwasanaethau hollbwysig megis profion treiddio wedi cael eu troi’n nwyddau, yn aml wedi eu darparu’n anghyson gan dimau dienw. Fe wnaethom ni adeiladu model a oedd yn canolbwyntio ar sicrwydd, cysondeb a chanlyniadau, wedi'i ddarparu gan ymgynghorwyr arbenigol gyda chymorth llywodraethu trylwyr. Mae ein platfform wedi'i alluogi gan AI yn sail i'r model hwnnw, ond daw’r gwerth go iawn o'n pobl ni a'n methodoleg.
Sut y’ch cynorthwyodd RCT chi wrth i chi dyfu?
Bu RCT yn bartner twf go iawn. Mae'r effaith fwyaf wedi dod trwy hyfforddi un-i-un, a’n helpodd ni i fireinio ein strategaeth mynd i'r farchnad a hogi sut rydyn ni’n lleoli ac yn gwerthu ein gwasanaethau. Mae arbenigwyr RCT hefyd wedi ein cefnogi ni i ddatblygu llyfr chwarae gwerthu partner strwythuredig, sy'n hanfodol mewn marchnad lle mae dros 90% o wasanaethau seiberddiogelwch yn cael eu gwerthu trwy bartneriaid sianel. Mae'r cyfuniad o arweiniad ymarferol, her strategol a mewnbwn arbenigol wedi ein helpu ni i wneud penderfyniadau gwell yn gynt ac osgoi llawer o'r trafferthion cyffredin sy'n wynebu busnesau cyfnod cynnar, twf uchel.
Sicrhaoch chi bedwar ardystiad pwysig yn eich blwyddyn gyntaf. Pam oedd hynny’n gymaint o flaenoriaeth?
Gwnaethom benderfyniad bwriadol i flaenoriaethu achrediad ISO 9001, ISO 27001, CE+ a CREST o'r diwrnod cyntaf, hyd yn oed wrth i ni gychwyn gyda’n harian ein hunain a thyfu ar yr un pryd. Mae'r ardystiadau hyn yn hanfodol ar gyfer ennill contractau menter a chynefino partneriaid sianel. Maen nhw’n darparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd a diogelwch gwybodaeth ac yn dangos bod Securanova yn gweithredu i'r safonau a ddisgwylir gan sefydliadau mawr, rheoledig. Sicrhawyd pob un o’r pedwar o fewn 12 wythnos a gosododd hynny y cywair am bopeth a ddilynodd.
Sut y gwnaethoch chi fagu cymaint o fomentwm masnachol mor gyflym?
Gwnaethom ni adeiladu hygrededd cyn i ni adeiladu ar raddfa. Fe wnaeth grŵp cynghori a gafodd ei gynnull yn ofalus ac a oedd yn cynnwys arweinwyr diwydiant uchel eu parch, ddilysu ein model ac agor drysau cynnar. Ar yr un pryd, yn gyflym, atgyfeiriadau a ddaeth y ffactor cryfaf o ran gyrru twf. Caniataodd dull sianeli’n gyntaf i ni dyfu’n ddaearyddol wrth barhau’n weithredol fain. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, roedd gennym ni ein cwsmer cyntaf, ein hail ymgysylltiad cyntaf, ein cleient rhyngwladol cyntaf, ein partner sianel cyntaf a'n blwyddyn broffidiol gyntaf. Gweithiodd y model.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i entrepreneuriaid technoleg eraill sy'n torri i mewn i sectorau sefydledig?
Blaenoriaethwch eich strategaeth ar gyfer mynd i’r farchnad cymaint ag arloesi. Deallwch sut mae sefydliadau’n mynd ati i brynu mewn gwirionedd a phwy sy’n dylanwadu ar benderfyniadau. Diffiniwch broffil eich cwsmer delfrydol yn drylwyr: bydd y ffocws hwnnw’n gyrru’r momentwm. Cynlluniwch yn ariannol ar gyfer y cyfnod cynnar, dewiswch eich cyd-sylfaenwyr a’ch penodiadau cyntaf yn ofalus a byddwch yn amyneddgar. Mae angen amser i adeiladu brand sydd â hygrededd. Daw twf cynaliadwy yn sgil gwneud y pethau cywir yn gyson, hyd yn oed pan fydd y cynnydd yn teimlo’n araf. Bydd y gwaith a wnewch chi ar y dechrau, yn enwedig ynghylch ansawdd ac ymddiriedaeth, yn chwyddo dros amser.
Beth yw’ch uchelgeisiau chi ar gyfer y pum mlynedd nesaf?
Rydyn ni am dyfu'n rhanbarthol ac yn rhyngwladol, gan dyfu ein sylfaen cwsmeriaid, partneriaethau sianel, a rhwydwaith ymgynghorwyr wrth gynnal y safonau ansawdd sy'n diffinio ein model. Ar hyn o bryd mae gennym ni 100 o ymgynghorwyr ar ein rhestr aros a byddwn ni’n ehangu capasiti yn fwriadol wrth i'r galw dyfu. Rydyn ni’n credu y bydd RCT yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth i ni ddechrau ar y cam nesaf hwn, gan ddarparu arweiniad strategol a chanfyddiad arbenigol i sicrhau bod ein twf yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd â'n gweledigaeth hirdymor.
Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.
Dysgwch ragor am Securanova.