Lansiwyd Rhaglen Accelerator fel rhaglen beilot a hynny ym mis Mawrth 2016. Y briff oedd creu a datblygu platfform Sbardun Un-i-Nifer  ar gyfer entrepreneuriaid sydd heb ddechrau eu busnes. Dros gyfnod o dri mis, byddai modd iddynt ddatblygu egin syniad da er mwyn iddynt:

  • Fod yn gwbl glir am eu cysyniad busnes
  • Deall y farchnad y maent yn ei thargedu yn well
  • Sicrhau dull amlinellol ar gyfer darparu cynnyrch neu wasanaeth; a
  • Meithrin dealltwriaeth sylfaenol am yr hyn sydd ei angen er mwyn dechrau eu busnes.

Roedd metrigau llwyddiant y rhaglen yn rhannu’n ddau brif amcan ar gyfer y cynrychiolwyr:

  • “Gwerthu” eu syniad yn effeithiol ac yn huawdl o flaen panel o fuddsoddwyr go iawn
  • Dangos eu bod yn gymwys ac yn addas ar gyfer Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar gyfer Entrepreneuriaid.

Roedd model cyflenwi’r rhaglen Accelerator yn seiliedig ar hwyluso cynnydd ymarferol, deallusol ac emosiynol gan ddefnyddio cyfuniad o:

  • Weithdai sgiliau allweddol, yn canolbwyntio ar feysydd a fyddai o gymorth i fireinio a datblygu syniad busnes a pharatoi ar gyfer cyflwyno’r syniad
  • Cohort llai o grwpiau mastermind/grwpiau bwrdd a fyddai’n caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu ac yn rhoi cyfle i drafod gyda mentor profiadol gan gynnig ffyrdd o wneud cynnydd, adolygu a sicrhau atebolrwydd; a
  • Mynediad i deithiau masnach rheolaidd i Lundain, a’r amrediad llawn o gymorth a gynigir gan ICE Cymru ar gyfer dechrau busnes.

Ar lefel ymarferol, y bwriad oedd sicrhau bod pob cynrychiolydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn:

  • 6 gweithdy hanner diwrnod
  • 3 sesiwn ar ffurf grwpiau bwrdd/grwpiau mastermind;
  • 3 sesiwn adolygu; a
  • 3 taith fasnach.

Gwnaeth y rhaglen beilot sicrhau canlyniadau da iawn. Cafwyd dros 40 o geisiadau , a chyfeiriwyd at anghenion sylfaenol Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wrth lunio rhestr fer . Hefyd, defnyddiwyd y ddau fetrig llwyddiant a nodir uchod i fesur llwyddiant:

  • 12 ymgeisydd wedi dechrau ar y rhaglen ac 11 wedi’i chwblhau
  • 9 wedi cyflwyno eu syniadau i fuddsoddwyr go iawn hyd yma (cyfradd llwyddiant 82%).
  • 5 yn cynnal trafodaethau uniongyrchol gyda buddsoddwyr ar hyn o bryd
  • 1 wedi cael cyllid Accelerator ac wedi sicrhau gwerthiant
  • 1 wedi cael cyllid gan Cyllid Cymru ac yn y cyfnod datblygu ar hyn o bryd
  • 1 wedi cofrestru’n llawn ar Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
  • 5 wedi cael eu Datganiadau o Ddiddordeb wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru
  • 3 i gael eu syniadau wedi’u gwirio a byddant yn ymuno erbyn diwedd mis Mehefin, ac mae’r  gweddill yn dewis cadw eu syniad yn ôl er mwyn gwneud gwaith datblygu pellach ar eu cynlluniau busnes ac maent yn gobeithio bwrw ymlaen â’r gwaith ym mis Gorffennaf.

At ei gilydd, mae’r rhaglen beilot wedi bod yn llwyddiant mawr i’r cynrychiolwyr. Y farn gyffredin oedd eu bod wedi codi stêm a gwneud mwy o gynnydd go iawn yn ystod y tri mis y buont yn dilyn y rhaglen nag yn ystod y chwe, naw ac, mewn un achos, 18 mis blaenorol pan oeddent yn bwrw ati ar eu pen eu hunain.

“Mae’r gallu i sicrhau eglurder a ffocws wedi bod yn anhygoel”

“Wedi fy helpu i adnabod fy ngwendidau, a thrwy’r gweithdai mastermind, gwnes i lwyddo i fynd i’r afael â’r gwendidau hynny”

“Cefais gyfeiriad a strwythur clir gan olygu y bu modd imi weithio at y cerrig milltir a osodwyd ar fy nghyfer gan y rhaglen Accelerator a chefais gymorth i’w cyflawni”

“Does dim gwahaniaeth pa gam rydych wedi cyrraedd, mae ymuno â’r rhaglen  Accelerator yn cael effaith anferth arnoch”

“Efallai y byddwch o’r farn y byddai’n well ichi dreulio amser yn gweithio ar eich busnes, ond mae treulio amser ar y rhaglen Accelerator yn ffordd dda o weithio ar eich busnes a gall eich helpu i wneud camau breision.”
 

Rhaglen Accelerator ICE Cymru - canolfan arloesi ar gyfer startups yn Ne Cymru