Cymorth Busnes Cymru ar gyfer proses bontio Tata Steel

Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi y mae proses bontio Tata Steel wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys pecyn o gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i baratoi eich achos busnes am gymorth ariannol drwy Gronfeydd Pontio Tata Steel a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Bydd Busnes Cymru yn darparu'r cyngor a'r arweiniad busnes cychwynnol i drafod yr heriau rydych chi'n eu hwynebu a chyfleoedd i fagu cydnerthedd, cryfhau'r busnes a'ch helpu i gael gafael ar Gyllid Pontio Tata Steel a fydd ar gael ac yn cael ei ddarparu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Sylwch: Mae pob grant yn amodol ar argaeledd cronfeydd.

Ewch i Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel i gael manylion llawn yr holl gymorth a chefnogaeth i bobl a busnesau y mae'r newidiadau yn Tata Steel UK yn effeithio arnynt. Dilynwch y ddolen hon: Hwb Gwybodaeth Pontio Dur Tata - Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Hunangyflogaeth a dechrau busnes

Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn wynebu diswyddiad ac eisiau dechrau eich busnes eich hun neu fod yn hunangyflogedig, hoffem glywed gennych.

P'un a oes gennych hedyn o syniad, eisoes yn masnachu'n rhan amser, neu'n barod i ddechrau eich menter eich hun, bydd Busnes Cymru yn eich helpu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor busnes i ddatblygu eich gwybodaeth fusnes i'ch helpu i ddechrau arni. Gallwn eich cynghori ar baratoi cynlluniau ariannol a chynlluniau busnes i'ch helpu i gael gafael ar grantiau a chymorth ariannol sydd ar gael drwy'r Gronfa Bontio Dechrau Busnes.

Cysylltwch â ni a byddwn yn darparu'r wybodaeth berthnasol i weld a ydych yn gymwys ac i wneud cais am y Gronfa Dechrau Busnes.

Cronfa Cydnerthedd Busnes

Nid yw’r Gronfa Cydnerthedd Busnes ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ymholiadau newydd tra bod ceisiadau yn cael eu hadolygu.

Os ydych yn profi dirywiad yn eich busnes ac hoffech gefnogaeth i ddatblygu ffrydiau incwm newydd, ystyried effaith ar gyflogaeth neu archwilio mynediad at gyllid arall, cofrestrwch gyda Busnes Cymru, drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cronfa Cadwyn Gyflenwi

Nid yw’r Gronfa Pontio’r Gadwyn Gyflenwi ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ymholiadau newydd tra bod ceisiadau yn cael eu hadolygu.

Os ydych yn profi dirywiad yn eich busnes ac yn dymuno datblygu cynlluniau i droi at farchnadoedd neu gwsmeriaid newydd, neu archwilio mynediad at gyllid arall, cofrestrwch gyda Busnes Cymru, drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cronfa Tyfu Busnes

Nid yw’r Gronfa Tyfu Busnes ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ymholiadau newydd tra bod ceisiadau yn cael eu hadolygu.

Os ydych chi'n edrych i ehangu eich busnes trwy dwf cyflogaeth neu drwy archwilio cyfleoedd marchnad newydd, gall Busnes Cymru roi cyngor ar eich strategaeth twf ac archwilio mynediad at gyllid arall. Cofrestrwch gyda Busnes Cymru, drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.