Bydd busnes cymdeithasol yn cael ei sefydlu fel math penodol o endid cyfreithiol, sy’n caniatáu hawliau pwysig i’r cwmni.
Mae hyn yn cynnwys ystod o agweddau, o gychwyn contractau gyda chyflenwyr, cwsmeriaid, cyflogeion a phartneriaid prosiect i warchodaeth gyfreithiol, hawliau aelodaeth a chyfyngiadau.
Yn yr adran hon, rydym yn edrych ar y prosesau sy’n gysylltiedig â bodloni gofynion cyfreithiol fel busnes cymdeithasol a sut rydych yn cael eich cynghori i adrodd am eich gweithgarwch masnachu.
Atebolrwydd cyfyngedig ar gyfer busnesau cymdeithasol
Mae’r rhan fwyaf o ffurfiau o endid cyfreithiol hefyd yn darparu gwarchodaeth atebolrwydd cyfyngedig i’w haelodau a’u cyfarwyddwyr a/neu eu swyddogion. Ni waeth pa ffurf gyfreithiol y mae’r busnes cymdeithasol wedi’i mabwysiadu, mae’n rhwym wrth gyfraith gwlad yn union fel person go iawn, ac mae gan y rheiny sy’n delio â’r cwmni hawl i gael gwybodaeth sylfaenol am y busnes.
I sicrhau nad yw gwarchodaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei cholli, rhaid i endidau cyfreithiol megis cwmnïau, ddarparu’r wybodaeth sylfaenol hon ar gofnodion cyhoeddus.
Prosesau adrodd cyfreithiol mewnol
Mae nifer o gamau y gallwch eu hymgorffori ym mhrosesau mewnol eich busnes cymdeithasol i sicrhau bod gofynion adrodd cyfreithiol yn cael eu bodloni a bod cyflogeion yn cydymffurfio â rheoliadau diwydiant.
Cynnal ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol
Mae’n bwysig sicrhau bod pobl go iawn yn cadw gafael ar hyn ar ran y busnes cymdeithasol. Y cam cyntaf yw deall yn union y math o endid cyfreithiol neu gorff rheoleiddio y mae angen iddynt adrodd iddo a sut i wirio bod y cofnod cyfreithiol yn gyfredol. Er enghraifft, os ffurf gyfreithiol eich busnes cymdeithasol yw 'Cwmni Cyfyngedig trwy Warant', y rheoleiddiwr dan sylw fydd Tŷ’r Cwmnïau.
Ar wefan Tŷ’r Cwmnïau, mae cofrestr neu restr o’r holl gwmnïau. Trwy gofnodi’r enw cofrestredig neu’r rhif cofrestru, mae’n bosibl gwirio bod y cwmni wedi’i gofrestru o hyd yn hytrach na’i fod wedi’i ddiddymu am ryw reswm, er enghraifft methu darparu gwybodaeth reolaidd. Os yw’r cwmni wedi cael ei ddad-gofrestru, bydd yn rhaid ei ailgoftrestru.
Mae’r math o endid cyfreithiol a rhif cofrestru unigryw eich busnes cymdeithas ar y Dystysgrif Ymgorffori neu’r Dystysgrif Gofrestru.
Cadw cofnodion busnes cymdeithasol
Mae’n ofynnol i gwmni gadw cofnodion a rhannu rhai o’r rhain gyda’r rheoleiddiwr a rhai ohonynt gyda’r byd yn gyffredinol.
Er enghraifft, ble mae ei swyddfa gofrestredig? Rhaid iddo rannu hyn gyda phob un o’i gyrff rheoleiddio a’u hysbysu pan fydd hyn yn newid. Mae hyn yn helpu awdurdodau i wybod ble i ysgrifennu os oes angen gwybodaeth arnynt neu os ydynt eisiau hysbysu’r busnes cymdeithasol eu bod yn bwriadu cyrraedd yn annisgwyl ac archwilio’r cofnodion corfforaethol.
Arddangos manylion cofrestru eich busnes cymdeithasol
Rhaid i’r un wybodaeth fod ar gael i’r byd rhag ofn bod angen i bobl neu endidau cyfreithiol eraill gyflwyno rhybudd cyfreithiol. Mae’n ofyniad cyfreithiol i roi cyfeiriad y swyddfa gofrestredig ar bob gohebiaeth gan y busnes cymdeithasol a allai olygu bod y parti arall yn gysylltiedig â threfniant neu risg neu atebolrwydd contractiol. Ni ellir defnyddio cyfeiriad Blwch Post. Mae hyn yn cynnwys dogfennau archebion, anfonebau, contractau, negeseuon e-bost a’r wefan (rhywle y gall pobl ddod o hyd iddo fel yr hafan, y dudalen Amdanom ni neu droedyn ar bob tudalen).
Cadw Cofrestr o Aelodau
Rhaid i gwmni gadw Cofrestr o’i holl aelodau. Yn achos Cwmni Cyfyngedig trwy Warant, er enghraifft, rhaid cynnwys enw presennol a chyfeiriad presennol pob un o'r aelodau ar y Gofrestr.
Mae aelod yn rhywun sydd:
- Yn gymwys i ymgeisio am aelodaeth o dan gymalau aelodaeth yr Erthyglau Cymdeithasu.
- Wedi ymgeisio am aelodaeth trwy’r weithdrefn a gytunwyd gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr.
- Wedi cael ei dderbyn gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr mewn cyfarfod a gofnodwyd yn briodol a bod ei enw wedi ymddangos yn y cofnodion hynny.
- Wedi llofnodi ei Ffurflen Warant i ddod yn Warantwr.
- Wedi cael Tystysgrif Aelodaeth a’r dyddiad wedi’i gofnodi yn y gofrestr.
Mae angen cadw Cofrestr Aelodau rhag ofn bod angen i ddiddymwr ysgrifennu atynt a gofyn am y swm gwarantedig, y mae eu hatebolrwydd wedi cael ei gyfyngu iddo trwy ymgorffori’r cwmni.
Nid oes rhaid rhannu’r Gofrestr hon â’r cyrff rheoleiddio, ond mae angen iddi fod ar gael iddynt os byddant yn gofyn amdani.
Mae hyn yn dangos bod yn rhaid i endid cyfreithiol, os yw am ufuddhau i ysbryd y cyfreithiau sy’n darparu cyfleuster atebolrwydd cyfyngedig, weithredu i safonau uchel o ran gweithdrefn a chadw cofnodion. Rhaid i’r rheiny sydd â gofal am y maes hwn mewn busnes cymdeithasol gael eu cefnogi gan eu cydweithwyr, yn enwedig y rheiny sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu adnoddau dynol. Mae’r rôl yn bwysig, yn dechnegol, yn fanwl, a dylid ei chefnogi gan fewnbynnau hyfforddiant priodol. Mae angen i fusnes cymdeithasol gadw cofnodion da iawn, rhannu rhannau priodol o’r cofnod hwnnw gydag eraill – rheoleiddwyr, partneriaid busnes a’r cyhoedd, sydd wedyn yn ei gwneud yn haws o lawer.
Ultra vires
Dylech chi hefyd gadw cofnodion o’r hyn y caniateir i weision y busnes cymdeithasol ei wneud ar ei ran a beth felly sy’n cael ei gwmpasu gan y cysyniad atebolrwydd cyfyngedig. Os yw aelod o staff neu aelod o’r sefydliad sy’n berchen ar y busnes cymdeithasol, neu hyd yn oed gyfarwyddwr, yn llunio contract gyda sefydliad allanol neu’n cyflogi rhywun pan na roddwyd unrhyw gyfarwyddiadau iddo wneud hynny a does neb arall yn ymwybodol ei fod yn gwneud hyn, mae wedi camu’r tu allan i’r cyfrifoldeb corfforaethol ac yn gweithredu 'ultra vires', neu’r tu hwnt i’r pwerau a roddwyd iddo.
Gallai canlyniadau unigolyn sy’n gweithredu 'ultra vires' gynnwys a) cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol a b) cael ei siwio am iawndal, ond nid yw wedi’i gyfyngu iddynt.
I osgoi gweithredu 'ultra vires', mae angen i’r unigolyn wybod bod llwybr yn ôl at ffynhonnell pob pŵer i weithredu – sef Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Gallai hyn, er enghraifft, fod:
- yn benderfyniad wedi’i gofnodi i roi pŵer penodol iddo weithredu
- yn benderfyniad polisi sy’n rhoi pwerau cyffredinol i weithredu
- yn swydd-ddisgrifiad y mae angen gweithredu arno
- yn gyllideb sy’n golygu bod angen gweithredu
Yr egwyddor gyffredinol yma yw ‘os nad oedd wedi’i gofnodi, ni ddigwyddodd’, felly mae angen dogfennu pob penderfyniad yn swyddogol i sicrhau eu bod yn derfynol. Os gwnaed penderfyniad, ond ni chafodd ei ddogfennu, ni fydd gan yr endid cyfreithiol dan sylw unrhyw brawf o’r broses a bydd yn rhaid credu na chafodd y penderfyniad ei wneud erioed. Mae’n ofyniad cyfreithiol i gadw cofnodion am benderfyniadau. Y gorau yw’r cofnodion, y gorau i bawb, ac mae’n fwy tebygol y bydd y busnes cymdeithasol yn datblygu dealltwriaeth o arwyddocâd llywodraethu da.
Adrodd am weithgarwch eich busnes cymdeithasol i reoleiddwyr
Gofynion adrodd ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Yn ogystal â’r elfennau a amlinellir uchod, mae’n ofynnol i Gwmni Cyfyngedig trwy Warant rannu ei Gofrestr Cyfarwyddwyr a’i Ddatganiadau Ariannol Blynyddol gyda Tŷ’r Cwmnïau ac mae’r rhain yn mynd ar gofnodion cyhoeddus i unrhyw un chwilio amdani ar Tŷ’r Cwmnïau.
Fel hyn, mae’r rheoleiddiwr yn gwybod i bwy i ofyn cwestiynau treiddgar os yw’n amau nad yw popeth fel y dylai fod, neu os yw tyllau’n ymddangos mewn cofnodion cyhoeddus. Gall unrhyw un wirio pwy sy’n gyfrifol am ddarparu rheolaeth gadarn o gwmni. Gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol am sawl rheswm, er enghraifft os yw’n ystyried partner masnachu posibl.
Gofynion adrodd ar gyfer rheoleiddwyr eraill
Enghraifft er gwybodaeth yn unig yw’r uchod. Mae llawer o reoleiddwyr eraill y gallai fod angen i fusnes cymdeithasol adrodd iddynt (o gofnodion corfforaethol ychwanegol a gedwir). Er enghraifft, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yw rheoleiddiwr Cymdeithasau Cydweithredol, Cymdeithasau Buddiant Cymunedol, ac Undebau Credyd. Er bod y cysyniadau’n debyg, ar y cyfan, mae’r mecanweithiau adrodd yn wahanol.
Mae Cwmnïau Cyfyngedig drwy Gyfranddaliadau wedi eu cofrestru gyda Tŷ’r Cwmnïau ond mae ganddynt ofynion cofnodi ac adrodd ychwanegol sy’n gysylltiedig â dosbarthiadau a materion cyfranddaliadau.
Yn yr un modd, mae ganddynt hawl i gael gwybod pa gronfeydd wrth gefn sydd gan y cwmni a pha mor dda yw ei berfformiad masnachu (pa mor debygol ydynt o gael eu talu). Am y rheswm hwn, mae hefyd yn bwysig rhoi ar gofnod cwmni fanylion am forgeisi a chostau a osodwyd gan fenthycwyr ar unrhyw un neu bob un o’r asedau a berchnogir gan y busnes cymdeithasol, gan ei bod yn amlwg, os aiff y cwmni’n fethdalwr, byddai’r asedau’n diflannu cyn i’r credydwyr masnach allu hawlio yn eu herbyn. Eto, gall ansawdd y wybodaeth a rennir ond bod cystal â’r cofnodion ariannol a gedwir.
Yn dibynnu ar faint a throsiant y busnes cymdeithasol dan sylw, gallai fod gofynion archwilio allanol. Gall y niferoedd dan sylw yma newid yn flynyddol, a bydd angen i’r sawl sy’n ymwneud â sicrhau bod popeth yn cael ei wneud yn gywir gael y wybodaeth ddiweddaraf yn gyson. Mae gwybodaeth yn dda i ddim os yw wedi dyddio gryn dipyn. Felly, mae angen i Tŷ’r Cwmnïau gael gwybodaeth am benodi ac ymddiswyddo cyfarwyddwyr ymhen dyddiau, a datganiadau ariannol o fewn 8 mis. Rhaid i bob cwmni gwblhau datganiad cadarnhau bob blwyddyn.
Gofynion adrodd ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau
Yn ogystal â’r elfennau a amlinellir uchod, mae’n ofynnol i Gwmni Cyfyngedig trwy Warant rannu ei Gofrestr Cyfarwyddwyr a’i Ddatganiadau Ariannol Blynyddol gyda Tŷ’r Cwmnïau ac mae’r rhain yn mynd ar gofnodion cyhoeddus i unrhyw un chwilio amdanynt ar Tŷ’r Cwmnïau.
Fel hyn, mae’r rheoleiddiwr yn gwybod i bwy i ofyn cwestiynau treiddgar os yw’n amau nad yw popeth fel y dylai fod, neu os yw tyllau’n ymddangos mewn cofnodion cyhoeddus. Gall unrhyw un wirio pwy sy’n gyfrifol am ddarparu rheolaeth gadarn o gwmni. Gallai’r wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol am sawl rheswm, er enghraifft os yw’n ystyried partner masnachu posibl.
Rhaid i bob endid cyfreithiol lenwi ffurflenni treth a dangos cyfrifon i Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF), ac wrth gwrs, os ydynt yn gyflogwyr, rhaid iddynt gofnodi cyflogau, casglu treth incwm ac Yswiriant Gwladol. Mae gan bob menter o unrhyw fath rwymedigaethau adrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae gan rai endidau cyfreithiol statws cyfreithiol y tu hwnt i’w ffurf gyfreithiol, felly, yn ogystal â’r ffurf gyfreithiol ‘Cwmni Cyfyngedig drwy Warant’, gallai’r busnes cymdeithasol yn yr enghraifft uchod fod â’r statws cyfreithiol ychwanegol ‘Cwmni Buddiant Cymunedol’. Felly, bydd yn ofynnol iddo gynhyrchu a rhannu gyda’i Reoleiddiwr yn flynyddol ddatganiad o’r hyn y mae wedi’i wneud a’i gyflawni ar drywydd y Datganiad Buddiant Cymunedol a ddangosodd iddynt wrth gofrestru. Byddai’r wybodaeth yn y Parth Cyfrifo Busnes Cymdeithasol o gymorth yma.
Bydd pob busnes cymdeithasol yn gweithredu mewn masnach(au) penodol a gallai’r rhain gael eu rheoleiddwyr eu hunain. Mae’n debygol iawn y bydd angen iddynt gael rhyw fath o ganiatâd cynllunio gan eu hawdurdod lleol neu gyrff eraill i wneud yr hyn y maent yn ei wneud ac/neu addasu adeiladau i’w wneud ynddynt. Rhaid i bob busnes cymdeithasol sy’n cyflogi pobl gynnal cofnodion personél sy’n dangos eu bod yn bodloni gofynion cyfraith cyflogaeth.
Mae pob busnes cymdeithasol sy’n cadw gwybodaeth am bobl unigol yn destun rheoleiddio dan GDPR. Y rheoleiddiwr perthnasol yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Y newyddion da yw y cafwyd menter dan arweiniad y llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf i wneud pob un o’r cyrff rheoleiddio hyn yn haws i’w defnyddio, gan eu gwneud yn wirioneddol fuddiol a chefnogol. Mae pob un ohonynt yn cymryd bod ar eich ochr chi, eich helpu i wneud pethau’n gywir a’i gwneud yn hawdd bodloni’r gofynion (er enghraifft, trwy ffeilio ar y we) yn ddifrifol iawn.
Dechreuwch adrodd am eich gofynion cyfreithiol gyda’n canllaw cydymffurfiaeth busnes cymdeithasol:
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Mwy o adnoddau adrodd cyfreithiol
Isod, ceir rhestr o wefannau a allai eich helpu. Os oes gennych chi amheuaeth, siaradwch â nhw. Gallech fod yn falch eich bod wedi gwneud hynny.
- Tŷ’r Cwmnïau
- Yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol
- Cyllid a Thollau EF
- Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- ACAS (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu)
- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
- Offeryn i Ddod o Hyd i Drwyddedau
- Dweud wrth Tŷ’r Cwmnïau am newidiadau i’ch cwmni cyfyngedig
- Ffeilio eich cyfrifon a Ffurflen Dreth eich Cwmni
- Ffeilio eich datganiad cadarnhau (datganiad blynyddol) neu’ch cyfrifon gyda Tŷ’r Cwmnïau