BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyflwyniad i Gydymffurfiaeth Busnes Cymdeithasol

Cydymffurfiaeth yw pa mor dda mae busnes yn dilyn y gofynion cyfreithiol a rheoleiddio sy’n llywodraethu ei fusnes.

Mae’n hanfodol eich bod yn deall beth sy’n ofynnol o’ch busnes cymdeithasol a bod gennych chi bob un o’r prosesau ar waith i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Pan fyddwch chi’n cychwyn busnes cymdeithasol, mae angen ystyried a chydymffurfio ag agweddau cyfreithiol a rheoleiddio amrywiol ar y busnes hwnnw. Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar natur y busnes, y strwythur cyfreithiol rydych wedi’i ddewis ar gyfer eich busnes, a’r gweithgareddau a wneir.

Rhaid i fusnesau cymdeithasol ystyried eu rhwymedigaethau cydymffurfio untro pan fydd y busnes yn cychwyn, a’u rhwymedigaethau parhaus. Ystyrir bod cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddio da yn rhan allweddol o gynnal busnes cymdeithasol llwyddiannus.

Mae’r tudalennau hyn yn mynd i’r afael â’r prif ofynion y dylid eu hystyried gan y rheiny sy’n sefydlu busnes cymdeithasol, ac wedi eu bwriadu i’ch helpu chi a’r rheiny sy’n gysylltiedig trwy rai o’r materion cydymffurfio.

Lawrlwythwch y Canllaw Cydymffurfiaeth Busnes Cymdeithasol fel PDF:

Mae'r canllaw yn defnyddio'r termau allweddol canlynol i gwmpasu ystod o ystyron.

Diffiniadau:

Eisiau trafod pynciau yn y canllaw hwn ymhellach?

Cysylltwch â sbwenquiries@cwmpas.coop neu eich Cynghorydd Busnes dynodedig.

Ymgeisiwch nawr am gymorth

Yn barod i dyfu eich busnes cymdeithasol? Ymgeisiwch nawr trwy Cwmpas i gael mynediad at gymorth ac adnoddau teilwredig sy’n gwneud gwahaniaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.