BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Gweithgarwch masnachol

Pa nwyddau a/neu wasanaethau fyddwch chi'n eu gwerthu? Dyma'ch allbynnau. Mae'n bwysig bod mor glir a manwl â phosibl ynglŷn â hyn. Gallent fod, er enghraifft, yn gynhyrchion diriaethol, yn wasanaethau arbenigol, neu, ar gyfer mentrau sy'n seiliedig ar wybodaeth, yn addysg neu'n ymgynghoriaeth.

Beth sydd angen i chi ei brynu er mwyn cynhyrchu eich allbynnau? Dyma eich mewnbynnau. Unwaith eto, gallent fod yn nwyddau diriaethol neu'n bethau llai diriaethol fel arbenigedd neu ddata. Gallent gynnwys hyfforddiant.

Beth yw'r prosesau y mae'r mewnbynnau'n dod yn allbynnau drwyddynt? Dyma, os mynnwch chi, beirianwaith y busnes ac mae wrth wraidd y fenter, felly mae angen i chi ddisgrifio'r prosesau hyn yn glir ac yn fanwl.

Efallai y bydd eich busnes wedi'i sefydlu i wneud elw i'w aelodau, neu efallai na fydd. Hyd yn oed os nad yw er elw personol, mae'n rhaid iddo wneud gwarged serch hynny neu ni fydd yn gynaliadwy. Os yw'n dibynnu ar lif cyson o amser neu arian a roddir, mae'r rhain yn cyfrif fel mewnbynnau (er nad yw'r model hwn yn cael ei argymell gan fod ganddo ddibyniaeth hanfodol amlwg).

Felly mae'n rhaid i'r allbynnau gynhyrchu mwy o arian na chost y mewnbynnau. Mae hyn yn ei dro yn golygu bod yn rhaid i'r gweithgaredd busnes ychwanegu gwerth at y mewnbynnau. Dylech allu dweud sut mae eich busnes yn creu gwerth yn y ffordd hon, sut mae'n gwneud rhywbeth nad oedd yno o'r blaen, y bydd eich cwsmeriaid yn talu cymaint amdano fel ei fod yn mwy na thalu cost eich mewnbynnau.

Dylech hefyd allu dweud pam rydych chi'n credu y bydd eich menter yn gallu cynhyrchu gwerth am y dyfodol rhagweladwy. Sut fyddwch chi'n datblygu eich cynhyrchion? Sut fyddwch chi'n sicrhau ansawdd?


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.