BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cynllun gweithredu busnes cymdeithasol

Llunio cynllun gweithredu yw’r cam olaf cyn i chi ddechrau busnes cymdeithasol.

Gan eich bod chi bellach wedi cynllunio’ch menter gymdeithasol yn ddigon manwl i fod yn hyderus o’i hymarferoldeb, mae’n bryd dangos ei bod yn bosibl ei chychwyn go iawn.

 

Sut i greu cynllun gweithredu

Bydd cychwyn eich busnes cymdeithasol yn cynnwys sawl cam, proses a digwyddiad, y bydd rhai ohonynt yn digwydd ar yr un pryd. Lluniwch ddiagram sy’n dangos sut maen nhw’n gysylltiedig â’i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd.

Pan fyddwch wedi llunio’ch diagram, ceisiwch bennu amserlen ar ei gyfer. Os oes unrhyw ansicrwydd, nodwch y dyddiadau cynharaf a hwyraf y disgwylir neu y gobeithir i bob digwyddiad gael ei gwblhau.

Camau cynllun gweithredu

Pan fyddwch yn llunio’ch cynllun gweithredu, meddyliwch am bob digwyddiad fel amcan y mae angen i chi ei gyflawni. Ar gyfer pob amcan, diffiniwch: 

  • Sut y byddwch yn ei gyflawni 
  • Pwy sy’n gyfrifol am ei gyflawni 
  • Pa adnoddau y bydd eu hangen ac o ble y byddant yn dod 
  • sut byddwch yn monitro cynnydd

Meddyliwch am hyn fel modd o asesu’r gwir sefyllfa.Os deuwch ir casgliad bod cyflawni unrhyw un och amcanion yn afrealistig, ewch yn ôl rai camau yn eich proses gynllunio i fynd ir afael â’r mater. Os yw amcan y penderfynir ei fod yn afrealistig yn ffactor llwyddiant allweddol hefyd, peidiwch â mynd ymhellach hyd nes y byddwch wedi datrys y broblem.

Ystyriwch ymestyn eich cynllun gweithredu y tu hwnt i’r cam cychwynnol. Fe allai fod yn ddefnyddiol cynllunio camau cynnar twf a datblygiad pellach y busnes, efallai hyd at y pwynt adennill costau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.