BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Rheoli risg mewn busnes cymdeithasol

Dylai pob busnes cymdeithasol gael proses sy’n rhoi golwg systematig iddo o’r risgiau y mae’n eu hwynebu yn ystod ei weithgareddau.

Yn rhan o’r broses hon, sefydlwch yr holl gofrestrau risg perthnasol i nodi’r risgiau y mae’r sefydliad yn eu hwynebu, gan eu graddio o ran y tebygolrwydd y byddant yn digwydd, a difrifoldeb eu heffaith. Wedyn, crëwch gynlluniau ar gyfer rheoli pob risg.  

Isod, edrychwn ar ffyrdd o liniaru risg mewn busnes cymdeithasol gan ddefnyddio Cwmpas fel astudiaeth achos.

Diben cofrestr risg 

Diben cael cofrestr risg yw sicrhau bod lefelau risg ac ansicrwydd yn cael eu rheoli’n briodol er mwyn i’r sefydliad allu cyflawni ei amcanion. 

Isod, amlinellir y broses ar gyfer sefydlu, cynnal ac adolygu cofrestrau risgiau Cwmpas. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.