BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Cyfrifo Cymdeithasol ar gyfer busnesau cymdeithasol

A chithau’n fusnes cymdeithasol, eich cyfrifoldeb chi yw diffinio amcanion cymdeithasol eich menter, ac amlinellu sut byddwch yn mesur llwyddiant, ac yn adrodd arno.

Bydd angen i chi gael system cyfrifo cymdeithasol hyfyw, sy’n rhesymegol gyson, a thrylwyr, i adrodd am eich nodau busnes.

Cyfrifo Cymdeithasol ar gyfer mentrau cymdeithasol 

Megis dechrau o hyd y mae cyfrifo cymdeithasol, neu gyfleu’r ffordd y mae camau eich sefydliad yn effeithio ar y gymuned, o gymharu â chyfrifo ariannol. Gall y rhan fwyaf o fusnesau cymdeithasol ddewis y dull cyfrifo cymdeithasol sy’n gweddu iddynt orau a’r effaith gymdeithasol y maent yn ceisio’i chyflawni. 

Edrychwch ar sut mae sefydliadau eraill a ymgysylltodd â gweithgareddau tebyg yn cyflwyno’u cyfrifon cymdeithasol i gael syniad gwell am beth allai weithio i’ch busnes cymdeithasol.  

Sut i sefydlu cyfrifo cymdeithasol ar gyfer eich menter 

Dechreuwch lunio eich cyfrifo busnes cymdeithasol trwy ystyried y canlynol: 

  • Beth yw’r effaith yr ydych yn dymuno’i chyflawni? Sut mae eich busnes cymdeithasol yn helpu’r gymuned? Mae hyn yn cyfateb i’ch nodau a’ch gweledigaeth, a gallai fod dros yr hirdymor. Gellir cyflawni’r effaith trwy gydweithio a/neu rymuso, a chan eich sefydliad yn uniongyrchol yn ogystal.
  • Beth yw’r deilliannau rydych chi’n ceisio eu creu? Mae deilliannau’n disgrifio eich gweithgarwch o fewn rhychwant amser diffiniedig. Maent yn gamau angenrheidiol sy’n haws eu mesur, ac yn cyfrannu at effaith gyffredinol eich menter gymdeithasol.  
  • Beth  yw’r allbynnau y byddwch yn eu cyflawni? Sut maent yn cyfrannu at eich deilliant?

Er enghraifft: Os eich effaith gymdeithasol yw economi leol fwy gwydn, deilliant posibl fydd lansio busnes newydd sy’n darparu gwasanaeth lleol ac yn hybu cyflogaeth. Efallai mai’r allbynnau yw cyflwyno hyfforddiant busnes i’r bobl a’i sefydlodd.  

Gofynion cyfrifo menter gymdeithasol 

I ateb y cwestiynau hyn, defnyddiwch yr un dull ag y byddech ar gyfer eich amcanion masnachol. Isod, rydym yn rhannu’r camau sy’n ymwneud â threfnu cyfrifo cymdeithasol ar gyfer eich busnes yn ddarnau llai: 

Proses gyfrifo’r busnes cymdeithasol 

Canllaw fesul cam i ddiffinio nodau eich busnes cymdeithasol, gosod targedau a diffinio’r ffordd orau o fesur eich nodau, yn ogystal â’r dulliau gorau ar gyfer adrodd canlyniadau i randdeiliaid, ac archwilio eich data. 

Lledaenu’r canlyniadau i randdeiliaid  

Pan fydd menter yn adrodd yn unol â thargedau cymdeithasol, mae’n ceisio ateb cwestiynau gan randdeiliaid mewnol ac allanol sy’n debyg i’r rheiny a atebwyd gan archwiliad ariannol. A wnaeth y fenter gyflawni unrhyw un o’r amcanion cymdeithasol y gwnaethant gofrestru i’w cefnogi? A wnaeth y fenter hon y rhoesant grant iddi unrhyw beth ar gyfer eu cymuned?

Wedi i chi ateb y cwestiynau hyn yn eich archwiliad cymdeithasol, gallwch ddefnyddio’r ddogfen ddilynol i hyrwyddo eich busnes cymdeithasol ar draws sianelau amrywiol. 

Mae adnoddau mwy defnyddiol ar safonau diwydiant, a diffinio sut beth yw eich allbynnau a’ch deilliannau eich hun, yn cynnwys:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.