BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Datblygu llywodraethiant busnes cymdeithasol

Un o elfennau sylfaenol llwyddiant i fusnes cymdeithasol yw cryfder ei lywodraethiant.

Llywodraethiant yw’r systemau a’r prosesau sy’n ymwneud â sicrhau cyfeiriad, goruchwyliaeth ac atebolrwydd cyffredinol sefydliad.  

Y ffordd fwyaf effeithlon o sicrhau a chynnal cryfder eich llywodraethiant yw darparu hyfforddiant, gwybodaeth a chymorth yn rheolaidd i bawb dan sylw. 

Datblygu aelodau eich busnes cymdeithasol  

Mae rôl yr aelodau yn bwysig yma. Mae aelodau yn yr achos hwn yn golygu 'y rheiny sydd â phleidlais ', sydd â’r pŵer i newid y dogfennau llywodraethu, gwneud a newid polisi corfforaethol ac ethol (neu ddiswyddo) cyfarwyddwyr. Mae’r ddogfen lywodraethu yn diffinio pwy sy’n gymwys ar gyfer aelodaeth, ond mae’r dulliau ymgeisio, derbyn a sefydlu yn fater o bolisi a gweithdrefn.

Mae hyn yn rhoi cryn dipyn o le i fusnes cymdeithasol addasu wrth osod cyfnodau prawf a phroses ar gyfer sefydlu sy’n darparu gwybodaeth am y busnes cymdeithasol y maent yn caffael cymaint o bŵer drosto, yn ogystal â hyfforddiant ac addysg ar eu rôl.  

Cyfraniadau eraill at lywodraethiant da

Y tu allan i fforymau aelodaeth a chyfarwyddwyr, gallai fod ffyrdd eraill o grynhoi cyfraniadau at lywodraethiant da. Mae rhai busnesau cymdeithasol yn defnyddio is-grwpiau a gweithgorau, sy’n aml yn cael eu harwain gan gyfarwyddwr gyda chyfranwyr cyfetholedig, i gynorthwyo â goruchwylio swyddogaethau a phrosiectau penodol, neu ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau.

Mae mentrau cymdeithasol eraill yn defnyddio grwpiau arbenigwyr a/neu fforymau defnyddwyr i ddarparu monitro darpariaeth gwasanaeth ychwanegol, yn ogystal ag adborth a chyngor i’r Bwrdd. Eto, mae’n bwysig egluro swyddogaeth is-grwpiau a fforymau trwy ddarparu swydd-ddisgrifiadau manwl. Oni bai bod y ddogfen lywodraethu neu’r Bwrdd yn dirprwyo pŵer penodol i’r grwpiau hyn, maent yn gynghorol o ran eu natur.  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.