BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ariannu busnes cymdeithasol

Mae menter gymdeithasol a gynhelir yn dda yn meddu ar strategaeth ariannol tymor canolig i’r tymor hir sy’n sicrhau cyfalaf digonol.

Hynny yw, mae’r busnes yn ennill digon o arian o fenthyciadau, buddsoddi mewn cyfranddaliadau ac elw a gedwir i ddilyn ei gynllun datblygu busnes. 

Sut i ariannu eich menter gymdeithasol? 

Cyn edrych yn fanwl ar fodelau ariannu menter gymdeithasol, adolygwch eich cynllun busnes. Wedi i chi weithio trwy hyn, bydd gennych chi syniad gwell am eich gofyniad cyfalaf parhaus a faint o arian sydd angen i chi ei gael ar gyfer:

  • buddsoddiadau cyfalaf sefydlog (arian sydd wedi ei fuddsoddi mewn asedau o natur hirbarhaus i’w ddefnyddio droeon dros gyfnod hir)
  • buddsoddiad hirdymor mewn elfennau anweladwy (sgiliau, datblygu’r farchnad a datblygu cynnyrch)
  • cyfalaf gweithio (yr arian parod sydd ar gael ar gyfer gweithrediadau sefydliad o ddydd i ddydd) 

Wedyn, gallwch chi sefydlu strategaeth fuddsoddi gytbwys ar gyfer eich busnes cymdeithasol a phenderfynu p’un a oes angen gofyn am fuddsoddiad. A oes strategaethau amgen ar gyfer ariannu? 

 

Heriau wrth ariannu menter gymdeithasol 

Os nad ydych chi’n cynhyrchu digon o gyfalaf i gyflawni eich amcanion busnes, gall y fenter wynebu nifer o anawsterau, er enghraifft:

  • Gorfasnachu: Nid yw sylfaen gyfalaf gyfan (benthyciadau, buddsoddiad mewn cyfranddaliadau ac elw a gedwir) y fenter yn ddigon i gyflenwi colled sydd fel arall yn fach o ran trosiant (lefel y gwerthiannau).  
  • Bod yn dlawd o ran arian parod: Ni all y fenter ymateb i’r galw oherwydd nad yw’n gallu fforddio prynu llafur neu ddeunydd crai.  
  • Dim digon o gyfalaf: Ni all y fenter gyflenwi lefel gynyddol o werthiannau, sy’n golygu na all fanteisio ar gyfleoedd newydd. 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.