BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y farchnad

O ran busnes cymdeithasol, y farchnad yw’r grŵp o ddefnyddwyr sydd â diddordeb yn eich cynhyrchion, eich gwasanaethau a’ch allbwn.

Fe allai gynnwys nifer o grwpiau llai, neu segmentau, y bydd angen i chi ymdrin â nhw ar wahân.

Mae llwyddiant eich busnes cymdeithasol yn dibynnu ar allu’r farchnad i’w gynnal, felly mae’n hollbwysig eich bod chi’n deall eich marchnad. Os na fydd aelodau’r gymuned yn cefnogi’r hyn rydych chi’n ei gynnig ac yn cynhyrchu cwsmeriaeth reolaidd, ni fydd gennych ddigon o arian i fwrw ymlaen â’ch cenhadaeth gymdeithasol. Dyna pam y dylai eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau gael eu llywio gan eich gwybodaeth am y farchnad.

Mae’n bwysig i fusnes cymdeithasol wahaniaethu rhwng cwsmeriaid a chleientiaid:

Cwsmeriaid, neu brynwyr, yw’r unigolion sy’n talu am eich nwyddau a’ch gwasanaethau.

Cleientiaid, neu fuddiolwyr, yw’r rhai sy’n derbyn cynnyrch cymdeithasol busnes. 

 

Diffinio marchnadoedd eich busnes cymdeithasol

Mae’n debygol y bydd gan eich busnes cymdeithasol nifer o farchnadoedd, gan gynnwys un neu fwy o’r canlynol: 

  • Cwsmeriaid sydd hefyd yn gleientiaid ac sy’n prynu gwasanaethau iddyn nhw eu hunain. Gallent ddefnyddio eu harian eu hunain neu arian a roddir iddynt gan sefydliadau eraill i brynu gennych. 
  • Cyllidwyr sy’n rhoi arian i chi er mwyn recriwtio a gwasanaethu buddiolwyr.
  • Cwsmeriaid sy’n eich talu chi i ddarparu gwasanaethau i’w cleientiaid nhw. 
  • Cwsmeriaid masnachol sy’n talu’r gyfradd lawn, wedi’u darbwyllo gan y ffaith y bydd rhywfaint o’r elw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith pro bono i fuddiolwyr. 

Disgrifiwch yr holl farchnadoedd y bwriadwch weithredu ynddynt a sut rydych yn bwriadu ymgysylltu â nhw. Nid oes angen i chi gael cynllun marchnata llawn ar y cam hwn, ond dylech ddarparu tystiolaeth fod eich marchnadoedd yn gallu cynnal eich menter yn y tymor hir.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.