BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Y Genhadaeth

Amcan yr adran hon yw eich cynorthwyo i ysgrifennu datganiad cenhadaeth cryno sy’n disgrifio diben eich busnes cymdeithasol.

I ddechrau, mae’n bosibl na fydd y weledigaeth wedi’i diffinio’n dda.  Man cychwyn da fyddai gwneud eich gorau i ddisgrifio’r gwerthoedd a’r nodau hynny – bydd hyn o gymorth o ran canolbwyntio a gloywi eich gweledigaeth.

Mae gweledigaeth ar ei phen ei hun yn un heb unrhyw sylwedd.  Mae gwireddu’r prosiect yn weithred greadigol, sef crisialu’r weledigaeth o gwmpas hedyn.  Yr hedyn yw’r datganiad cenhadaeth.  Bydd llunio datganiad cenhadaeth yn eich galluogi i rannu eich gweledigaeth yn eglur â phobl eraill fel y gellir adeiladu menter gydlynol.

Os byddwch yn ei chael hi’n anodd ysgrifennu datganiad cenhadaeth byr, efallai bod gennych nifer o amcanion sy’n anghyson â’i gilydd a phethau rydych chi eisiau eu cyflawni. Ceisiwch chwilio am themâu cyffredin sy’n uno’r amcanion hyn. Efallai y gallwch fynegi’r genhadaeth o ran yr effaith gymdeithasol fwriadedig neu, ar gyfer cwmni cydweithredol, y buddion i’r aelodau.

Ysgrifennwch eich datganiad cenhadaeth gyda hirhoedledd mewn golwg.  Bydd yn arwain datblygu’r fenter y tu hwnt i’r dyfodol agos felly dylech ei ddrafftio’n ofalus iawn - ystyriwch bob gair - a gwnewch yn siŵr bod cymaint o randdeiliaid â phosibl yn cytuno.

Wedi i chi gytuno ar ddatganiad cenhadaeth, gosodwch y datganiad ar y wal.  Mae’n bwysig bod pawb sy’n cymryd rhan yn gyfarwydd â’r datganiad cenhadaeth – bydd hyn yn helpu cadw gweithgarwch wedi’i ganolbwyntio ar y genhadaeth, a datrys gwrthdaro a chamddealltwriaeth, a llywio cynllunio strategol.

Gwiriwch unrhyw weithgarwch newydd arfaethedig yn erbyn y datganiad cenhadaeth.  Os ystyrir ei fod y tu hwnt i’r genhadaeth, dylech fod â rheswm da dros ben – a chonsensws – cyn symud ymlaen.

Mae Cwmpas yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan werthoedd. Ewch i'r wefan os hoffech wybod mwy am werthoedd ein sefydliad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.