Pan fyddwch chi’n cychwyn busnes newydd, dylech chi ystyried recriwtio a chyflogaeth ei bobl – yr adnodd dynol
Mewn busnes cymdeithasol, mae eu hymglymiad yn aml yn wahanol ac yn ehangach – gallai gynnwys gwirfoddolwyr, perchnogion sy’n gyflogeion neu berchnogion cymunedol. Dyna pam mae’n bwysig iawn rhoi sylw arbennig i sut caiff adnoddau dynol eich menter gymdeithasol eu defnyddio.
Rheoli adnoddau dynol mewn mentrau cymdeithasol
Mae rhai busnesau cymdeithasol yn cynnwys eu cyflogeion mewn llywodraethu’r sefydliad. Mewn gwirionedd, caiff cwmnïau cydweithredol gweithwyr eu perchnogi a’u cynnal yn gyfan gwbl gan eu cyflogeion. Yn yr achosion hyn, mae’r hawliau a’r cyfrifoldebau cyflogaeth yn union yr un fath ag ydynt ar gyfer unrhyw fusnes arall. O ran llywodraethu busnes a berchnogir gan gyflogeion neu gwmni cydweithredol gweithwyr, does ond angen ystyried y rolau lluosog fel cyflogai, aelod a chyfarwyddwr.