Archives
3991 canlyniadau
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’r canlynol - Bonws Cadw Swyddi Bydd cyflogwyr yn y DU yn derbyn bonws unigol o £1,000 yr un am bob gweithiwr ar ffyrlo sy’n dal i gael eu cyflogi ar 31 Ionawr 2021. Cynllun Kickstart Bydd pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n hawlio’r Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn yr hirdymor yn gymwys. Bydd cyllid ar gael ar gyfer pob lleoliad swydd...
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec wedi lansio galwad am gyllid i gefnogi sefydliadau yng Nghymru a Quebec, Canada, i ffurfio mentrau cydweithredu a phartneriaethau sy’n cyfrannu ar ymdrechion adfer ar ôl Covid-19. Mae’n rhaid i bob cynnig fod â phartner wedi’i leoli yng Nghymru a phartner wedi’i leoli yn Quebec ac mae’n rhaid i bob partner wneud cais i’w llywodraeth briodol. Mae £4,300 ar gael i bartner o Gymru a’r cyfwerth o $7,500 CAD...
Os ydych chi’n cael llai o waith neu ddim gwaith oherwydd y coronafeirws efallai y gallwch chi hawlio grant drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws. Hefyd, efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar ei newydd wedd os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi neu’ch plentyn, ar hyn o bryd neu rywbryd yn y gorffennol: bod eich lefel risg yn uchel am fod gennych gyflwr iechyd isorweddol (gwarchod) eich...
Mae Cam 2 Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yn cau am 5yp ddydd Gwener 10 Gorffennaf 2020. Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru. Gall busnesau cymwys hawlio hyd at: £10,000 ar gyfer microfusnesau £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig £690,000 ar gyfer busnesau mawr I gael rhagor o wybodaeth...
Cynhelir Wythnos Tech Cymru am y tro cyntaf rhwng 13 ac 17 Gorffennaf 2020. Bydd yr ŵyl rithwir unigryw hon o weminarau, gweithdai a digwyddiadau digidol yn arddangos ehangder, cryfder ac amrywiaeth diwydiant technoleg ffyniannus Cymru. O arweinwyr technoleg byd-eang i fusnesau newydd, bydd Wythnos Tech Cymru yn rhoi sylw i gyflawniadau ac arloesedd y bobl a’r sefydliadau yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Technology Connected.
Os ydych chi wedi gor-hawlio drwy'r Cynllun hwn, gallwch wneud y canlynol: cywiro'r mater yn eich cais nesaf gwneud taliad i CThEM (dim ond os nad ydych chi'n gwneud cais arall) Byddwch angen eich rhif cyfeirnod talu 14 neu 15 digid sy'n dechrau gyda X. Cysylltwch ag adran CThEM i gael eich rhif cyfeirnod. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Mae’r esemptiad TAW ar Gyfarpar Diogelu Personol wedi ei ymestyn tan ddiwedd mis Hydref 2020. Daw’r penderfyniad – a fydd yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i gartrefi gofal, elusennau a busnesau gaffael yr offer hanfodol – ar ôl pennu TAW sero ar werthiant PPE am dri mis yn y lle cyntaf o 1 Mai 2020 tan 31 Gorffennaf 2020. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £10 miliwn i ymchwilio i dechnolegau i helpu i sicrhau arloesi ym maes cerbydau dim allyriadau yn y dyfodol, a datblygu’r technolegau hynny. Gan fod COVID-19 wedi tarfu ar ddiwydiant y DU, mae Driving Electric Revolution, sy’n rhan o’r Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol a’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel, yn cydweithio i fuddsoddi mewn prosiectau arloesol a fydd yn cefnogi ymgais...
Mae dathliad cydraddoldeb ac amrywiaeth mwyaf Cymru yn troi’n ddigidol! O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, bydd Pride Cymru 2020 yn cael ei gynnal yn rhithwir. Bydd Wythnos Fawr Rithwir Pride Cymru yn wythnos lle bydd cymunedau yn dal i gael y cyfle i gadw mewn cysylltiad, codi ymwybyddiaeth a rhannu negeseuon. Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn, yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd i gymryd rhan ac i gefnogi’r digwyddiad, dilynwch Pride Cymru ar Facebook...
Wrth i fusnesau lletygarwch ddechrau ailagor mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau cychwynnol i fusnesau y gofynnir iddyn nhw gofnodi a chadw data personol cwsmeriaid, staff ac ymwelwyr i gefnogi’r cynllun profi ac olrhain. Nid oes angen i chi ddatblygu apiau arbennig nac atebion digidol – dim ond dewis y broses sydd orau i’ch busnes chi sydd raid. Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell y pum cam syml canlynol er mwyn sicrhau nad yw...
Pagination
- Previous page
- Page 399
- Next page