Archives

4001 canlyniadau

Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu bragwyr a thafarnwyr i gael gwared ar gwrw sydd wedi troi yn ystod coronafeirws. Fel arfer, mae’n rhaid i swyddog cyfrifol o’r bragdy oruchwylio’r broses o ddinistrio cwrw. Fodd bynnag, yn sgil gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae’n anodd i fragwyr a thafarnwyr ddilyn y canllaw hwn ar hyn o bryd. Nawr, gall bragwyr benodi’r tafarnwr neu berson y cytunir arno ar y safle i ddinistrio cwrw...
Mae Siambr De Cymru yn cynnig platfform sy’n galluogi pob cwmni yng Nghymru a’r tu hwnt i rannu cyfleoedd cyflenwad a galw yn deillio o’r sefyllfa economaidd a masnachu bresennol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn ac mae’n agored i bawb – aelodau ac eraill, fel ei gilydd. Anfonwch e-bost at support@southwaleschamber.co.uk gyda’ch ymholiad neu gynnig. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Siambr Fasnach De Cymru. Ewch i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ffermwyr yn cael mis ychwanegol i gyflwyno eu Ffurflen y Cais Sengl, gyda’r dyddiad cau bellach wedi cael ei estyn i 15 Mehefin 2020. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.
Mae’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth yn annog busnesau, gwyddonwyr data ac ymchwilwyr biofeddygol i ymuno â Hackathon rhithiol proffil uchel sydd wedi’i lunio i wella’r dulliau o fonitro, rhoi diagnosis a rheoli’r Coronafeirws. Ar hyn o bryd mae angen brys am gymorth meddygol a mathau eraill o gymorth yn y DU oherwydd lledaeniad Covid-19 a’r galw am dechnolegau gan gynnwys: darparu gofal dwys addysg a hyfforddiant carlam i staff gofal iechyd cefnogi pobl sy’n hunanynysu neu’n...
Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra wedi lansio canllaw newydd i adwerthwyr yn y sector cyfleustra sy’n ystyried cyflwyno gwasanaeth danfon i’r cartref i gwsmeriaid. Mae rhagor o adwerthwyr cyfleustra yn ystyried danfon nwyddau fel opsiwn i gyrraedd cwsmeriaid lleol sy’n hunanynysu, neu’r rhai sy’n methu â theithio i’w siop leol. Mae’r canllaw newydd yma’n rhoi manylion ynghylch beth ddylai adwerthwyr ei ystyried wrth ddechrau gwasanaeth danfon i’r cartref. Mae’r canllaw yn cynnwys y meysydd canlynol: sut...
Mae CThEM wedi paratoi canllawiau i’ch helpu chi i ddarganfod pa offer, gwasanaethau neu gyflenwadau sy’n drethadwy os yw eich gweithwyr yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: band eang gliniaduron, tabledi, cyfrifiaduron, a chyflenwadau swyddfa ad-dalu treuliau am offer swyddfa mae eich gweithiwr wedi prynu treuliau ychwanegol fel trydan, gwres neu fand eang benthyciadau gan gyflogwr llety dros dro gweithwyr yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer busnes...
Bydd gweithwyr nad ydynt wedi defnyddio eu holl wyliau blynyddol statudol oherwydd COVID-19 nawr yn gallu eu trosglwyddo ymlaen i’r 2 flynedd nesaf o wyliau, o dan fesurau sydd wedi cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU ddydd Gwener 27 Mawrth 2020. Ar hyn o bryd, mae gan bron i bob gweithiwr hawl i gael 28 diwrnod o wyliau gan gynnwys gwyliau banc bob blwyddyn. Fodd bynnag, nid oes modd trosglwyddo’r rhan fwyaf o’r hawl...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £500 miliwn heddiw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi Cymru, busnesau ac elusennau sy’n profi gostyngiad enfawr mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Nod y Gronfa Cadernid Economaidd yw cau bylchau’r cynlluniau cefnogi sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig, a fydd yn gwarantu 80% o gyflogau ac incwm pobl. Bydd y...
Bydd perchnogion cerbydau’n cael esemptiad o 6 mis rhag gorfod cael prawf MOT. Bydd hyn yn golygu eu bod yn gallu parhau teithio i’r gwaith pan na fydd modd iddyn nhw weithio gartref, neu siopa am hanfodion yn ystod y cyfnod yma o COVID-19. Bydd pob car, fan a beic modur y byddai angen prawf MOT arnyn nhw fel rheol yn cael esemptiad rhag bod angen prawf o 30 Mawrth 2020 ymlaen. Rhaid cadw'r cerbydau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r help canlynol i bobl hunangyflogedig: Gohirio taliadau Treth Incwm Hunanasesiad sy’n ddyledus ym mis Gorffennaf 2020 a thaliadau TAW o 20 Mawrth 2020 tan 3‌0‌‌ Mehefin 2020 Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.