Archives
3981 canlyniadau
Bydd profion theori gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 3 Awst, ynghyd â phrofion galwedigaethol, beic modur, car a threlar, a phrofion gyrru tractor. Bydd profion gyrru yn ailddechrau ar ddydd Llun 17 Awst, yn ogystal â phrofion hyfforddwyr gyrru a gwiriadau safonau. Bydd yr Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) yn diweddaru’r canllawiau’n fuan i hwyluso dychwelyd yn ddiogel. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Gweithredwch nawr i fod yn barod ar gyfer y rheolau newydd o fis Ionawr 2021. Mae’r camau y gallwch eu cymryd nawr, nad ydyn nhw’n dibynnu ar unrhyw drafodaethau, yn cynnwys: teithio i’r UE – bwrwch olwg ar beth sydd angen i chi ei wneud i deithio i Ewrop o 2021 aros yn y DU os ydych...
Ar 15 Gorffennaf 2020, bydd gweledigaeth a chynllun gweithredu newydd ar gyfer y sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn cael ei lansio. Yn dwyn y teitl Trawsnewid Cymru Trwy Fenter Gymdeithasol, mae'r ddogfen wedi'i chyd-lunio gan fentrau cymdeithasol, asiantaethau cymorth menter gymdeithasol yng Nghymru, ac mae ganddi gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Y nod yw darparu gweledigaeth glir o botensial mentrau cymdeithasol i gyfrannu at fywydau a bywoliaeth pobl yng Nghymru wrth iddynt ailadeiladu yn sgil effeithiau'r...
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch newydd ‘Gwirio, Newid, Mynd’ i helpu busnesau ac unigolion i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Mae’r ymgyrch yn annog busnesau ac unigolion i ddefnyddio’r adnodd gwirio i gael rhestr bersonol o gamau y bydd angen iddyn nhw eu cymryd i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar...
Mae Innovate UK, rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, yn buddsoddi hyd at £2 miliwn i ariannu prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd sy’n canolbwyntio ar ymchwil ddiwydiannol. Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais a bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i brosiectau iechyd digidol a dyfeisiau clyfar sy’n hyrwyddo heneiddio’n iach. Mae’n rhaid iddynt fodloni un neu fwy o’r themâu hyn: roboteg deallusrwydd estynedig ac artiffisial meddalwedd...
Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty. Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan: drwy’r dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 3 a 31 Awst 2020 i gynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, oddi ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i bobl eu mwynhau y tu mewn i hawlio’r arian yn ôl gan...
Mae Enterprise Nation yn cynnal sesiynau bŵt-camp i helpu busnesau i wefreiddio eu gwerthiant ac mae gwahoddiad i chi ymgeisio am le! Yn y sesiynau bŵt-camp hyn sy’n para 5 diwrnod, bydd cyfle i 100 o fusnesau fanteisio ar ddysgu sut i fynd â’ch busnes ar-lein, gwerthu’ch cynhyrchion ar-lein, llunio gwefan, meistroli’r cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy! Hefyd, byddwch yn elwa ar gyfarfod grŵp o entrepreneuriaid yn eich sector ac yn cael cyngor gan grŵp...
Mae cyfarwyddyd ar y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) wedi ei ddiweddaru gydag enghreifftiau newydd o’r modd y gall busnes ddioddef effaith negyddol yn sgil coronafeirws ac ychwanegwyd gwybodaeth am y modd y gall gwahanol amgylchiadau effeithio ar y cynllun. Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi pecyn tair wythnos o fesurau i lacio mwy ar gyfyngiadau coronafeirws Cymru. Bydd y mesurau'n cael eu cyflwyno fesul cam bob dydd Llun dros y cylch adolygu nesaf, a fydd yn gweld rhannau helaeth o ddiwydiannau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru yn ail-agor. Bydd tafarndai, caffis a bwytai yn agor yn yr awyr agored a bydd trinwyr gwallt, barbwyr a siopau trin gwallt symudol yn ail-agor drwy...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi pob math o ganllawiau a chyngor i gyflogwyr a busnesau i’w helpu yn ystod y pandemig coronafeirws gan gynnwys y canlynol: asesiadau risg penodol COVID-19 i’ch helpu chi i reoli risg ac amddiffyn pobl cyngor ar amddiffyn gweithwyr agored i niwed yn ystod y pandemig coronafeirws cyngor i gyflogwyr a busnesau yn y sector gweithgynhyrchu sy’n dychwelyd i’r gwaith Hefyd, mae dolenni i fanylion a chanllawiau defnyddiol...
Pagination
- Previous page
- Page 398
- Next page