Archives

3911 canlyniadau

Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor i gyflogwyr sy'n ystyried diswyddo staff oherwydd yr anawsterau ariannol y gallai'r busnes fod yn eu hwynebu oherwydd coronafeirws. Y cyngor allweddol yw y dylai cyflogwyr yn ymgynghori’n iawn â’u staff i ofyn am farn ar atebion, a allai gynnwys rhewi’r broses recriwtio neu gyfyngiadau goramser. Y dewis olaf ddylai diswyddo fod bob amser, pan na fydd unrhyw ateb arall ar ôl. Os nad oes gan gyflogwr unrhyw ddewis yna...
Mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn atgoffa cyflogwyr bod dyletswyddau pensiwn yn y gweithle yn berthnasol, p’un ai bod eich staff yn gweithio neu ar ffyrlo fel rhan o’r Cynllun Cadw Swyddi trwy gyfnod y Coronafeirws. Fodd bynnag, ers ddechrau Awst, rydych wedi gorfod talu cyfraniadau pensiwn a chyfraniadau Yswiriant Gwladol eich staff sydd ar ffyrlo. Byddwch yn dal i allu hawlio’r isaf o 80% o gyflog eich staff neu £2,500 y mis ar gyfer y staff...
Mae ail gam y Cynllun hwn bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Bydd rhai sy’n gymwys yn gallu derbyn ail grant, a’r olaf, sy’n werth 70% (hyd at £6,750) o’u helw masnachu misol. Mae unrhyw berchennog busnes hunangyflogedig sydd wedi’i effeithio’n ddrwg gan y coronafeirws ers 14 Gorffennaf yn gymwys dan y cynllun. Bydd CThEM yn cysylltu â phob cwsmer cymwys posibl i ddweud eu bod yn gallu hawlio am y grant terfynol. Rhagor o...
Wrth i’r cyfyngiadau cyfreithiol gael eu llacio ac wrth i ragor o fangreoedd gael agor, mae'n anochel y bydd mwy o ryngweithio corfforol rhwng pobl. Mae hyn yn golygu bod y risg o ledaenu'r feirws yn cynyddu. Felly, wrth i fwy a mwy o bobl fynd i’r un lleoedd ag eraill, mae gan fusnesau sy'n gweithredu mewn sectorau lle mae risg uwch o ledaenu'r coronafeirws rôl allweddol o ran cefnogi’r broses o olrhain cysylltiadau a...
Bydd BIND 4.0, y rhaglen gyflymu gyntaf sy’n cynnig y posibilrwydd o gontractau mawr gyda cwmnïau mawr. Mae’r rhaglen gyflymu gyhoeddus-breifat yng Ngwlad y Basg. Mae’n targedu BBaChau gan gynnig y technolegau 4.0 gorau ar gyfer Diwydiant gan gynnwys: data mawr rhithiol a reliti estynedig roboteg cydweithredo seibr ddiogelwch rhyngrwyd pethau argraffu 3D Yn y sectorau canlynol: gweithgynhyrchu uwch ynni smart iechyd technoleg bwyd Mae’r rhaglen arloesol hon yn hybu’r broses o drochi BBaChau yn...
Er bod y DU wedi ymadael â’r UE, bydd busnesau’n parhau i gael unrhyw gyllid gan yr UE a ddyfarnwyd iddynt eisoes. Mae hyn yn cynnwys cyllid a fydd yn ddyledus iddynt ar ôl 31 Rhagfyr 2020. Gall busnesau barhau i wneud cais am gyllid yr UE o dan y fframwaith presennol ar gyfer gwariant. Bydd y dyddiadau cau yn dibynnu ar y gronfa y gwnaeth y busnes gais ar ei chyfer. Bydd rhai cronfeydd...
Gall busnesau technoleg a gweithgynhyrchu wneud cais yn awr am gyllid i ddatblygu technolegau digidol arloesol sydd â’r potensial i drawsnewid cadwyni cyflenwi; gan sicrhau sector gweithgynhyrchu mwy effeithlon, cynhyrchiol, hyblyg a chydnerth yn y DU. Diolch i gyllid gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol, dan arweiniad Innovate UK, gall consortia o fusnesau wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau hyd at £1.5 miliwn. Bydd prosiectau’n cefnogi datblygiad technolegau digidol arloesol ac yn gweithio gyda...
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno Cronfa Cymunedau’r Arfordir ar ran Llywodraeth Cymru. Nod Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru yw annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol y Deyrnas Unedig trwy ddyfarnu arian i greu twf economaidd a swyddi cynaliadwy. Gallwch ymgeisio am rownd chwech o Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymrur yng Nghymru os ydych yn: gwmni sector preifat awdurdod lleol corff sector cyhoeddus eraill elusen mudiad sector gwirfoddol a chymunedol menter cymdeithasol, gan gynnwys...
Dod o hyd i asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym o 1 Ionawr 2021 ymlaen: Mae’r rhestr o asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym a fydd yn gallu helpu i gyflwyno datganiadau tollau o 1 Ionawr 2021 wedi’i ddiweddaru yma. Allforio i Fiet-nam o 1 Ionawr 2021 ymlaen: Daeth Cytundeb Masnach Rydd UE-Fiet-nam i rym ar 1 Awst 2020. Mae canllawiau’n egluro’r newidiadau i allforwyr y DU i Fiet-nam o 1 Ionawr 2021 ymlaen wedi’i...
Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi lansio ymgyrch newydd er mwyn helpu cwmnïau i ddysgu mwy am sut a beth i’w ffeilio ar-lein. Gallwch wylio’r fideos canlynol i gael canllawiau cam wrth gam: sut i weld trosolwg o'ch cwmni sut i nodi pobl â rheolaeth sylweddol (PSC) Fel rhan o ymateb Tŷ’r Cwmnïau i’r coronafeirws, maen nhw wedi cyflwyno gwasanaeth dros dro er mwyn lanlwytho dogfen i Dy'r Cwmnïau yn hytrach na phostio copi papur. Darllenwch fwy...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.