Archives
3901 canlyniadau
Gallai rheolau sy’n ymwneud â gweithgareddau ar-lein yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) fod yn gymwys o’r newydd i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU sy’n gweithredu yn yr AEE o 1 Ionawr 2021. Mae’r Gyfarwyddeb e-Fasnach yn caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein yn yr AEE weithredu mewn unrhyw wlad yn yr AEE, gan ddilyn dim ond y rheolau perthnasol yn y wlad lle maent wedi’u sefydlu. Ni fydd y fframwaith hwn yn gymwys...
Rhestr chwarae COVID-19 HMRC ar YouTube yw’r lle i droi am weminarau byw, a rhai wedi’u recordio, am gyhoeddiadau COVID-19. Mae’r fideos hyn yn crynhoi’r cymorth sydd ar gael er mwyn helpu busnesau, unigolion hunangyflogedig, cyflogwyr a’u gweithwyr i ymdrin ag effaith economaidd COVID-19. Beth am gael y newidiadau a’r manylion diweddaraf trwy gofrestru i dderbyn e-byst CThEM. Gallwch ddilyn eu cyfrif Twitter hefyd @HMRCgovuk Ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol arall yw Agent Update – mae’r rhifyn...
Os ydych chi’n ystyried dechrau neu dyfu busnes bwyd neu ddiod, mae’r digwyddiad ar-lein hwn i chi! Dewch i gyfarfod prynwr Sainsbury’s a gwneud cais i gyflwyno’ch cynnyrch i Sainsbury’s, clywed gan entrepreneuriaid llwyddiannus yn y diwydiant, dysgu sut i dyfu eich brand ar y cyfryngau cymdeithasol, a chlywed sut i greu brand sy’n sefyll allan. Mae digwyddiadau cyfnewid yn eich rhoi mewn cysylltiad â phrynwyr brand mawr sy’n chwilio am gynhyrchion. Cynhelir y weminar...
Mae Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC) yn lansio Gwobr Undod Sifil, gwobr unwaith ac am byth gyda’r thema benodol “Cymdeithas sifil yn erbyn COVID-19”. Bydd y Wobr Undod Sifil yn anrhydeddu mentrau creadigol ac effeithiol gan unigolion, sefydliadau cymdeithas sifil a chwmnïau dan berchnogaeth breifat sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fynd i’r afael ag argyfwng COVID-19. Bydd yr EESC yn dyfarnu hyd at 29 o wobrau, am y swm o €10,000 i fentrau...
Mae CThEM wedi cyhoeddi o fis Ebrill 2022 y bydd Gwneud Treth yn Ddigidol yn cael ei ymestyn i gynnwys pob busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW gyda throsiant dan y trothwy TAW. O fis Ebrill 2023 bydd yn gymwys i drethdalwyr sy’n ffeilio ffurflenni hunanasesu treth incwm ar gyfer incwm busnes neu eiddo dros £10,000 y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Er mwyn parhau i weithredu yn ystod COVID-19, mae llawer o fusnesau bwyd sefydledig wedi arallgyfeirio i ddanfon bwyd, gwasanaethau tecawê a gwerthu ar-lein. Cafwyd cynnydd hefyd yn y bobl sy’n coginio gartref ac yn gwerthu eu bwyd yn lleol neu ar-lein. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i fusnesau sefydledig a newydd i’w helpu i fynd i’r afael â heriau pandemig COVID-19. Bydd ymgyrch ‘Yma i Helpu’ yn cynnig arweiniad ac...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru eu canllawiau ar aerdymheru ac awyru yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Mae’r canllawiau wedi’u seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf ac efallai y byddant yn cael eu diweddaru pan ddaw gwybodaeth newydd i’r fei. Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle a dyw hyn heb newid. Gall awyru da helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws yn y...
Darperir y Gwersylloedd hyn, sydd â’r nod o gyflymu cynlluniau twf busnes sylfaenwyr benywaidd uchelgeisiol, mewn pedair sesiwn fer, o 10am i 11.30 am, gydol mis Medi, fel a ganlyn: 3 Medi 2020 – Dechrau Arni 10 Medi 2020 – Beth sy'n eich Gwneud chi'n Wahanol 17 Medi 2020 – Cyflwyno Syniad gyda Steil 24 Medi 2020 – Cyfarfod â'r Angylion Bydd gweithgareddau cyn gwaith ar-lein ar gael hefyd. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan...
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor ei Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru ar gyfer ceisiadau. Fel rhan o gronfa argyfwng £53 miliwn Llywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn buddsoddi £27.5 miliwn i helpu sefydliadau i oroesi wrth iddynt wynebu pwysau ariannol y coronafeirws. Bydd y Cyngor yn rheoli’r arian ar gyfer: theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd orielau sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio eu gwaith celfyddydol sefydliadau sy'n cynnig gwaith celfyddydol cyfranogol Mae'r gronfa wedi...
Mae gan Fusnes Cymru'r holl wybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd ei hangen arnoch i gychwyn, cynnal a thyfu eich busnes. Gall ein tîm o gynghorwyr hynod brofiadol eich cynorthwyo â'r sialensiau mwyaf heriol o gyflawni adolygiad o'ch busnes i gynghori ar faterion Adnoddau Dynol. Mae Busnes Cymru'n cynnig: cyngor ar lein, dros y ffôn a thrwy rhith-gyfarfodydd gwybodaeth gweithdai rhithwir gweminarau arbenigedd annibynnol I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, cliciwch yma.
Pagination
- Previous page
- Page 390
- Next page