Archives
3921 canlyniadau
Erbyn hyn, gellir rhoi pob math o fuddion mewn nwyddau neu wasanaethau drwy’r gyflogres, sy’n golygu dim rhagor o ffurflenni P11D. Mae CThEM yn cynnal gweminarau byw lle gallwch ddysgu mwy am y ffordd y gall defnyddio’r gyflogres abed amser i chi. Defnyddio’r gyflogres - trethu buddion gweithwyr cyflogedig drwy eich cyflogres: Gallwch gofrestru i ddefnyddio’r gyflogres ar gyfer buddion yn 2021-22 hyd at 5 Ebrill 2021. Bydd CThEM yn egluro i chi sut i...
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth ysmygu newydd yng Nghymru a hoffem glywed eich barn ar gynigion i ddwyn y gofynion hyn i rym ar 1 Ionawr 2021. Y prif newidiadau yw y bydd lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant, tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yn ddi-fwg. Bydd gweithleoedd a mangreoedd caeedig neu sylweddol gaeedig sydd ar agor i’r cyhoedd yn parhau’n ddi-fwg ar y cyfan (fel y maent nawr)...
Mae Rhaglen Gymorth Ymchwil a Datblygu Busnesau Bach a Chanolig Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg bellach wedi agor i’r sawl sydd am ddatgan diddordeb. Mae’r sector ffasiwn, tecstilau a thechnoleg yn fywiog, arloesol ac amlddisgyblaeth, mae’n llywio llawer o sectorau cysylltiedig yn y diwydiant ehangach, ac yn llythrennol yn rhychwantu pob math o feysydd, o amaethyddiaeth i hysbysebu. Nod yr alwad hon am gyllid yw cefnogi mentrau bach a chanolig i ddatblygu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau’r...
Bydd y Grant Darparwyr Gofal Plant yn cynnig cyllid penodol i’r sector gofal plant er mwyn helpu i sicrhau bod modd i fwy o ddarparwyr ailagor wrth i ysgolion ddychwelyd ym mis Medi. Mae’r grant ar gael i leoliadau gofal plant sydd wedi methu â manteisio ar unrhyw gynlluniau cymorth eraill i fusnesau a gynigiwyd gan Lywodraethau Cymru a’r DU, a bydd y rhan fwyaf o’r darparwyr yn gymwys i gael grant untro o £2,500...
O 1 Awst 2020 bydd y Cynllun Cadw Swyddi trwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn parhau i ddarparu grantiau i weithwyr ar ffyrlo, ond ni fydd yn ariannu cyfraniadau Yswiriant Gwladol na phensiwn cyflogwyr mwyach. Bellach, bydd rhaid i chi ddefnyddio’ch adnoddau eich hunain i’w talu ar ran pob gweithiwr, boed ar ffyrlo neu beidio. Y camau allweddol i gyflogwyr eu cadw mewn cof yw: gofalu bod eich data yn gywir – mae’n bwysig darparu’r...
Sefydlwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) gan lywodraeth y DU, ac mae’n helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau. Mae bron i 8 o bob 10 o weithwyr cyflogedig y DU yn poeni am faterion ariannol yn ystod eu horiau gwaith, ac mae’n effeithio ar eu perfformiad ond gallwch chi hyrwyddo llesiant ariannol yn y gweithle. Mae timau partneriaethau rhanbarthol MaPS, yn cynnwys Cymru, yn cynnig cymorth am ddim a ffyrdd...
Mae Small Business Finder yn borth ar-lein am ddim lle gallwch hyrwyddo’ch busnes bach a helpu cwsmeriaid i ganfod a chefnogi busnesau annibynnol lleol, ac mae’r adnodd ar gael i bob busnes bach yn y DU. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru’ch busnes ond wedi dechrau proffil cyfryngau cymdeithasol newydd ers hynny, wedi diweddaru eich logo, wedi lansio gwasanaeth newydd neu siop ddigidol, neu os oes gennych chi gynigion gwych rydych chi am eu rhannu...
Byddwch yn wyliadwrus rhag sgamiau, sy’n dynwared negeseuon Llywodraeth y DU fel ffordd o ymddangos yn ddilys ac yn ddi-fygythiad. Chwiliwch am ‘sgamiau’ / ‘scams’ ar GOV.UK am wybodaeth am sut i gydnabod deunydd go iawn gan CThEM. Gallwch hefyd anfon negeseuon e-bost amheus sy’n honni eu bod gan CThEM at phishing@hmrc.gov.uk a tecsts i 60599. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ailagor. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn cynnwys: Busnesau twristiaeth a lletygarwch: canllawiau i ailagor yn raddol Canllawiau ar yr economi ymwelwyr: Rhestr wirio i fusnesau twristiaeth a lletygarwch Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin Canllawiau cadw pellter cymdeithasol y coronafeirws (COVID-19) i bawb yng Nghymru Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i ailddechrau eich busnes yn ddiogel, mae gan...
Mae’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear - gan gynnwys Sellafield Ltd a Magnox Ltd - wedi cydweithio ag Innovate UK i alw ar gwmnïau i feddwl am syniadau newydd a dulliau arloesol o fynd i’r afael â’r her. Mae roboteg, synwyryddion, deallusrwydd artiffisial a systemau awtonomaidd ond yn rhai o’r technolegau posibl y gellid eu defnyddio ar gyfer y gystadleuaeth Didoli a Gwahanu Gwastraff Niwclear. Mae ar agor i unrhyw sefydliad sydd â diddordeb - does dim...
Pagination
- Previous page
- Page 392
- Next page