Archives

2341 canlyniadau

Gan ganolbwyntio ar adeiladu diwydiant ffilm a theledu mwy cynhwysol, mae Disney a The National Film &Television School yn chwilio am chwe thîm o awduron a chyfarwyddwyr profiadol gyda safbwyntiau gwahanol ac amrywiol, gydag o leiaf un person yn y tîm o gefndir sy’n cael eu tangynrychioli, i wneud ffilm fer fel rhan o raglen Disney Imagine UK Shorts Incubator. Mae Disney Imagine UK yn gyfle i wneud ffilm fer gyda chefnogaeth greadigol gan swyddogion...
O 1 Tachwedd 2022, ni fyddwch yn gallu defnyddio’ch cyfrif ar-lein TAW presennol i anfon Ffurflenni TAW. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (MTD) (yn Saesneg) a defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw’ch cofnodion TAW a chyflwyno’ch Ffurflenni TAW. Cyn i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW, bydd angen naill ai: pecyn meddalwedd sy’n cydweddu sy’n eich galluogi i gadw cofnodion digidol (yn...
Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 17 a 23 Hydref 2022. Thema eleni yw 'Let's Get Real' a bydd yn herio canfyddiadau a mythau ynghylch ailgylchu, a thargedu halogiad i wella ymddygiadau ailgylchu. Dyma’r un wythnos yn y flwyddyn lle mae manwerthwyr, brandiau, cwmnïau rheoli gwastraff, cymdeithasau masnach, llywodraethau a'r cyfryngau yn dod at ei gilydd i gyflawni un nod: ysgogi'r cyhoedd i ailgylchu mwy o'r pethau cywir, yn amlach. Mae'n beth syml y gall pawb ei...
Gwybodaeth i'ch helpu i amddiffyn, rheoli a gorfodi eich hawliau eiddo deallusol (IP) yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Os ydych chi'n ystyried ehangu eich busnes i'r UE/AEE, mae'n hanfodol gwybod sut i reoli a gorfodi eich IP fel hawliau eiddo preifat. Mae hawliau IP yn diriogaethol, ac efallai y bydd angen i chi gofrestru eich hawliau trwy: broses ranbarthol neu ryngwladol sy'n eich galluogi i ffeilio mewn sawl gwlad ar...
Mae pandemig COVID-19, ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, prisiau ynni cynyddol ynghyd â rhyfel Rwsia-Wcráin wedi cyflwyno heriau i'n systemau bwyd, a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae'r digwyddiadau hyn wedi amlygu pa mor ddibynnol yw'r DU ar fwydydd wedi'u mewnforio. Rydym wedi gweld prisiau bwyd yn codi, silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd, wedi gwylio lorïau sy'n llawn nwyddau darfodus yn ciwio ar ffiniau ac wedi cael gwybod bod prinder gweithwyr (h.y., gweithwyr...
Mae pecyn cystadleuaeth Brand Labs yn cynnwys dylunio a datblygu brand, gwefan ac ymgyrch lansio gwerth £15,000. Anogir unrhyw fusnes newydd yng Nghymru, p’un a yw’n seiliedig ar gynnyrch, yn cael ei arwain gan wasanaeth, yn elusen ar lawr gwlad neu’n fenter gymdeithasol, cyn belled â'i fod: Wedi'i leoli yng Nghymru Wedi lansio o fewn y 3 blynedd ddiwethaf Yn gweithredu Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28 Hydref 2022. I gael mwy o...
Mae Cymru Iach ar Waith yn rhoi cymorth am ddim i gyflogwyr, unigolion ac ystod o weithwyr iechyd proffesiynol i helpu pobl o oedran gweithio i aros yn heini ac yn iach fel y gallant barhau i weithio, neu ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn cyfnod o salwch. Mae'r rhaglen yn cynnwys ystod o wasanaethau sy’n helpu i wella perfformiad sefydliadol a lleihau costau a baich salwch ac absenoldeb drwy gymorth personol, digwyddiadau hyfforddi a gweithdai...
Bydd Llywodraeth y DU yn dod â statws arbennig pob un o gyfreithiau cadwedig yr UE i ben erbyn 31 Rhagfyr 2023. O dan Fil Rhyddid Brexit, bydd holl ddeddfwriaeth yr UE naill ai'n cael ei diwygio, ei diddymu, neu ei disodli. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol UK government to set its own laws for its own people as Brexit Freedoms Bill introduced - GOV.UK (www.gov.uk) introduced
Cyngor, arweiniad, a gweminarau i helpu i liniaru prisiau cynyddol bwyd anifeiliaid, tanwydd a gwrtaith. Mae Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r effaith y mae costau cynyddol yn ei chael ar gynhyrchwyr amaethyddol. Yn benodol, pris: tanwydd bwyd anifeiliaid gwrtaith I gael mwy o wybodaeth, ewch i Mynd i'r afael â chostau cynhyrchu uchel yn y sector ffermio | LLYW.CYMRU Mae FarmWell Cymru yn ganolfan wybodaeth ar-lein. Gallwch gael cyngor ar wydnwch personol a busnes i chi...
Rhwng 17 Hydref a 23 Hydref 2022 bydd partneriaid, gwirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn y byd digidol. Bydd miloedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal mewn cannoedd o gymunedau, gan ddarparu ffordd gyfeillgar a chroesawgar i helpu pobl i gymryd y cam nesaf ar eu taith ar-lein, i ddatblygu sgiliau ac i wella bywydau ar hyd y ffordd. Mae yna ganllawiau ac adnoddau defnyddiol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.