Archives

2331 canlyniadau

Mae oddeutu traean y bwyd a gynhyrchir ledled y byd yn cael ei golli neu ei wastraffu ac yn cael effaith wirioneddol ar newid hinsawdd, gan gyfrannu 8-10% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o waith ddyn. Dyna pam mae WRAP a Hoffi Bwyd Casau Gwastraff yn neilltuo wythnos o weithredu i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau amgylcheddol gwastraffu bwyd, a hyrwyddo gweithgareddau sy’n helpu i leihau faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu. Cynhelir...
Mae dargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen yn haws nag yr ydych chi'n meddwl. Gallai’ch busnes fod yn gymwys i hawlio nawdd i helpu lleihau’ch gwastraff bwyd wrth helpu pobl sydd mewn perygl o ansicrwydd bwyd. Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar agor i gwmnïoedd Cymreig sydd â bwyd sy’n fwytadwy, ond yn mynd yn wastraff oherwydd ei fod yn rhy gostus neu’n anaddas ar gyfer defnydd masnachol. Amcan y...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr leol yn dechrau yn hydref 2022. Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, y byddai ardoll yn sicrhau y bydd modd mwynhau cyrchfannau yng Nghymru am genedlaethau i ddod. Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol i Gymru, gyda gwariant cysylltiedig â thwristiaeth yn cyrraedd dros £5 biliwn y flwyddyn yn 2019. Byddai treth dwristiaeth yn creu incwm i...
Heddiw (10 Chwefror), cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru yn dechrau llacio’n raddol rai o’i mesurau diogelu coronafeirws sydd dal mewn grym wrth i achosion barhau i leihau. O 18 Chwefror 2022 ymlaen, bydd y gofyniad cyfreithiol i ddangos Pás COVID i fynd i mewn i leoliadau a digwyddiadau penodol yn cael ei ddileu ac o 28 Chwefror ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man dan do cyhoeddus bellach. Bydd...
Bydd annog rhagor o ferched i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn helpu Cymru i arloesi wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau byd-eang mawr sy’n wynebu cymdeithas, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw. I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, sy’n digwydd yn flynyddol, dywedodd y Gweinidog bod angen i ragor o ferched ifanc ddilyn gyrfaoedd mewn STEM os yw Cymru am wireddu ei photensial economaidd...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwersi Cymraeg am ddim ar gael i unrhyw un rhwng 16 a 25 oed ac i bob ymarferydd addysg. O fis Medi ymlaen, bydd pobl ifanc 18 i 25 oed yn gallu cofrestru'n rhad ac am ddim ar gyrsiau gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd mewn ystafelloedd dosbarth rhithwir, gan ddefnyddio Zoom neu Teams, gyda chyrsiau...
Bydd degau o filoedd o staff gofal cymdeithasol a fydd yn gymwys i gael cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill yn cael taliad net ychwanegol o £1,000 wrth i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y sector. Bydd y taliad ychwanegol, a fydd yn cael ei roi ar yr un adeg â chyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, yn £1,498 cyn didyniadau treth ac yswiriant gwladol. Gall gweithwyr gofal sy’n talu treth incwm ar y gyflog sylfaenol ddisgwyl cael...
Ymunwch â Busnes Cymdeithasol Cymru i ddysgu mwy am Berchnogaeth Gweithwyr yn eu gweminar am ddim ar 17 Chwefror 2022 rhwng 2pm a 3pm. Os ydych chi am werthu’ch busnes neu am ddatblygu’ch busnes a gwobrwyo a chadw staff, mae Perchnogaeth Gweithwyr yn opsiwn arloesol â manteision masnachol profedig. Dyma’r math o berchnogaeth busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y DU bellach. Gall Perchnogaeth Gweithwyr fod yn fuddiol iawn os ydych chi’n: ystyried ymddeol o fusnes...
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2022 rhwng 18 Gorffennaf a 21 Gorffennaf. Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous. Mae Sioe Frenhinol...
Diben cronfa’r Pethau Pwysig yw darparu cyfalaf ar gyfer cyflawni gwelliannau sylfaenol ar raddfa fach i seilwaith twristiaeth ledled Cymru er mwyn sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy trwy gydol eu harhosiad. Bydd cronfa y Pethau Pwysig 2022-23 yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddiadau strategol mewn cyrchfannau twristiaeth allweddol a bydd felly’n agored i Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn unig. Mae ffurflenni Datgan Diddordeb bellach ar gael. Y dyddiad cau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.