Archives

2351 canlyniadau

Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn i hyrwyddo'r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd tua 140 o wledydd ledled y byd yn ei ddathlu. Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 yn cael ei gynnal ar 8 Chwefror a’r thema yw ‘Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein’, yn awyddus i...
I gefnogi a chyflymu’r broses o ddigidoleiddio’r diwydiant gweithgynhyrchu, mae Innovate UK KTN yn gweithio gyda UKRI i sbarduno arloesi er mwyn cefnogi mabwysiadu technoleg ddigidol drwy Made Smarter Innovation. Bydd gweminarau Rhwydwaith Made Smarter Inovation yn arddangos teithiau gwneuthurwyr sydd wedi bod yn arloesol yn y ffordd maen nhw wedi mabwysiadu technolegau digidol i wella perfformiad, ynghyd â darparwyr technoleg ddigidol, gan greu datrysiadau arloesol creadigol i gefnogi taith y gwneuthurwr. Bydd y gyfres...
Grant i ariannu costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau, neu ariannu’r costau hynny’n rhannol. Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu ariannu’n rhannol) costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys costau rhentu misol. Cyn ystyried y cynllun hwn, defnyddiwch declyn gwirio cyfeiriadau Openreach i gael gwybod a oes gennych fynediad eisoes at wasanaeth band eang cyflym. Mae yna gyflenwyr eraill sy’n...
Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae’n cynnwys tair sioe genedlaethol. Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae’r sioeau’n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy’n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio. Dyddiadau a lleoliadau eleni yw: 5 Ebrill 2022 – Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd...
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 4 Chwefror 2022. P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg. Ond does dim rhaid i ti aros tan Dydd Miwsig Cymru i rannu dy gariad at gerddoriaeth Gymraeg neu i ddod o hyd i...
Wyddech chi y cafodd 39% o fusnesau a 26% o elusennau yn y DU ryw fath o dramgwydd neu ymosodiad seiberddiogelwch yn ystod y deuddeg diwethaf? Cymerwyd y ffigurau hyn o'r Arolwg blynyddol diweddaraf achosion o dramgwydd Seiberddiogelwch a gynhyrchir gan y llywodraeth. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd mewn gweithio o bell o ganlyniad uniongyrchol i bandemig COVID-19. Yn ei dro, mae hyn wedi gwneud sawl sefydliad yn fwy agored i...
Great Taste yw cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy y byd. Mae cael ein panel o dros 500 o arbenigwyr yn profi eich bwyd neu ddiod yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, ysgrifenwyr bwyd a manwerthwyr. Waeth a yw’ch cynnyrch yn derbyn gwobr 1, 2 neu 3 seren, mae sêr Great Taste yn sêl bendith heb ei ail. Y dyddiad cau cyffredinol yw 14 Chwefror...
Mae Geovation, hyb rhwydwaith arloesi agored yr Arolwg Ordnans, wedi lansio her gyda Swyddfa Hydrograffig y DU i ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i fynd i’r afael â llygredd arfordirol, gyda gwobr o hyd at £5,000 i’r enillwyr. Fel ynys, mae gan Brydain Fawr forlin o bron i 20,000 milltir (gan gynnwys yr ynysoedd). Mae mwyafrif llethol y boblogaeth hefyd yn byw o fewn 100 milltir i’r morlin, felly mae llygredd arfordirol gwasgaredig yn...
Wrth ddatblygu busnes neu yrfa mae'n rhaid i ni fod yn gwbl onest gyda ni'n hunain o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'r hynny o adnoddau sydd ar gael. Ar gyfer ein datblygiad personol, rhaid inni bob amser gredu y gallwn ni sicrhau dyfodol mwy a gwell, ond rhaid cydbwyso hyn gyda’n hunanymwybyddiaeth. Mae gan enillwyr ffordd wych o wirio'r hyn sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd y nod, ac mae deall...
Mae Prosiect Hwyluso STEM, sef cynllun peilot a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac a ariannir gan ymrwymiad Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, yn helpu i feithrin rhwydwaith o gydberthnasau rhwng busnesau lleol ac ysgolion. Nod y prosiect yw creu rhaglen gydgysylltiedig o gefnogaeth sy'n canolbwyntio ar “ddiwydiant mewn ysgolion” mewn clwstwr o ysgolion ym Mlaenau Gwent, gan godi dyheadau dysgwyr a'u paratoi ar gyfer symud i fyd gwaith, wrth ychwanegu at gwricwlwm yr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.