Archives
2291 canlyniadau
Mae Gwobrau Ashden 2022 bellach ar agor i’r holl arloeswyr hinsawdd sy’n trawsnewid y byd gwaith. Mae’r Gwobrau yn cyflymu arloesi o ran hinsawdd, gan helpu busnesau, elusennau, llywodraethau ac eraill i rymuso eu heffaith yn y DU ac mewn cenhedloedd incwm isel. Categorïau Gwobrau Ashden 2022: Ynni i Fywoliaethau Ffoaduriaid Sgiliau Mynediad at Ynni Ynni Amaethyddiaeth Arloesi gydag Ynni (DU) Sgiliau mewn Sectorau Carbon Isel (DU) Gwyrddu Pob Gwaith (DU Bydd chwe enillydd y...
Sicrhewch fod negeseuon SMS a ffôn eich sefydliad yn effeithiol a dibynadwy. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi cyngor newydd i fusnesau ar greu negeseuon i gwsmeriaid y gall pobl ymddiried ynddynt yn dilyn cynnydd mewn sgamiau negeseuon testun a galwadau ffôn. Mae’r canllawiau yn nodi sut y gall busnesau gysylltu â chwsmeriaid mewn ffordd fwy diogel ac mewn ffordd sy’n golygu y gellir gwahaniaethu rhyngddynt a thwyllwyr sy’n esgus bod yn frandiau adnabyddus y...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd i bremiymau’r dreth gyngor ar y lefel uchaf y gellir ei defnyddio ar gyfer ail gartrefi, gan gynnwys rheolau treth lleol newydd ar gyfer llety gwyliau. Mae'r newidiadau hyn yn cynrychioli’r camau ychwanegol a gymerir i sicrhau bod pobl yn gallu dod o hyd i gartref fforddiadwy yn y lle y maent wedi’u dwyn i fyny ynddo. Mae'r mesurau'n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â phroblemau...
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Eleni, mae Innovate UK ac Innovate UK KTN yn dwyn ynghyd cwmnïau ac unigolion anhygoel i gymeradwyo cyflawniadau menywod sy’n arloesi a sbarduno sgyrsiau grymus. Bydd eu cynhadledd ar-lein undydd am ddim yn llawn trafodaethau panel i ysgogi meddwl, siaradwyr ysbrydoledig a syniadau arloesol. Nod y digwyddiad blynyddol hwn yw ysbrydoli menywod sy’n arloeswyr newydd, tynnu...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y caiff y Cynnig Gofal Plant ei ehangu i gynnwys rhieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu. O fis Medi ymlaen, bydd rhieni sy'n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy'n cymryd absenoldeb mabwysiadu, os bydd hynny'n unol â Chynllun Cymorth Mabwysiadu'r plentyn, yn gymwys i gael hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i...
Ydych chi’n adeiladu cynnyrch arloesol cynaliadwy ac am dyfu’n gyflym a sicrhau’r effaith fwyaf bosibl? Mae’r rhaglen Amazon Launchpad Sustainability Accelerator yn rhaglen 3 mis heb ecwiti sy’n cefnogi busnesau newydd yn eu dyddiau cynnar sy’n adeiladu cynhyrchion sydd wedi’u llunio gan ystyried eu heffaith amgylcheddol. Os ydych chi’n fusnes newydd ar ei gamau cyntaf sy’n adeiladu cynnyrch ffisegol ac yn ystyried effaith amgylcheddol, gwnewch gais i’r rhaglen Amazon Launchpad Sustainability Accelerator cyn 25 Mawrth...
Bydd y Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol yn dod i ben ar 17 Mawrth 2022. Bydd gennych hyd at 24 Mawrth 2022 i gyflwyno unrhyw geisiadau am gyfnodau o absenoldeb hyd at 17 Mawrth 2022, neu i ddiwygio ceisiadau rydych chi eisoes wedi’u cyflwyno. Ni fyddwch yn gallu hawlio Tâl Salwch Statudol yn ôl ar gyfer absenoldebau cysylltiedig â’r coronafeirws neu hunanynysu gan eich gweithwyr sy’n digwydd ar ôl 17 Mawrth 2022. O 25 Mawrth...
Ymunwch â ni i ddathlu llwyddiant y Gronfa Economi Gylchol a Phrosiectau Cadwyn Gyflenwi Cynnwys Eilgylch yng Nghymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi bod yn flwyddyn gyffrous a phwysig o ran rhoi hwb i hyder prynwyr/cyflenwyr i ddefnyddio cynnyrch eilgylch a gwneud yr economi gylchol yng Nghymru yn realiti. Byddwn yn dangos sut rydym, drwy gydweithio, wedi cynorthwyo gwneuthurwyr i oresgyn heriau er mwyn defnyddio mwy o ddeunyddiau eilgylch – yn enwedig plastig...
Rhaid i'ch gweledigaeth ar gyfer llwyddiant gael ei hategu gan ymdeimlad cryf o bwrpas. Mae gosod y nodau cywir i gyrraedd eich cyrchfan yn gweithredu fel y cerrig camu i lwyddiant, wedi'u sbarduno gan eich angerdd am eich gweledigaeth. Ond eich synnwyr neu ymdeimlad o bwrpas fydd yn eich gyrru o'r naill nod i'r llall. Os yw eich gweledigaeth yn adlewyrchu’ch angerdd a'r hyn rydych chi am ei gael o fywyd go iawn, a'ch bod...
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth bob blwyddyn. Mae’n ddiwrnod byd-eang o ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod yn nodi galwad i weithredu hefyd i gyflymu’r broses o sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Thema IWD 2022 yw #BreakTheBias Dychmygwch fyd lle mae cydraddoldeb rhywiol. Byd heb ragfarn, stereoteipiau a gwahaniaethu. Byd sy’n amrywiol, yn gyfartal a chynhwysol. Byd lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu a’i werthfawrogi. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau...
Pagination
- Previous page
- Page 229
- Next page