Archives
2301 canlyniadau
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfres o weminarau ar-lein tros ginio fydd yn cael eu cyflwyno gan arweinwyr dylanwadol yng nghyfadran MIT i ddathlu rôl menywod mewn STEM. Ymunwch â'n sesiynau dysgu dros ginio ym mis Mawrth i ddysgu gan grŵp o fenywod sy'n gweithio mewn meysydd STEM ac yn datrys problemau mawr y byd, gan newid y ffordd y mae'r byd yn gweithio a lle cymdeithas ynddo. Dim ond 20% o’r menywod yng Nghymru...
Yn ddiweddar, agorodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) gystadleuaeth newydd fel rhan o Gam 2 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) ar gyfer Gwanwyn 2022 a bydd yn cynnal cyfres o glinigau ar gyfer rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais am gyllid IETF. Mae BEIS hefyd yn cynnal digwyddiad Arddangos Technoleg ar 10 Mawrth 2022 i arddangos rhai o'r prosiectau y...
Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2022 yn gyfle i arddangos Cymru i’r byd. Cymerwch gip ar y pecyn i gael gwybodaeth am ymgyrch Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, Pethau Bychain – Random Acts of Welshness, a sut gallwch chi gymryd rhan: Pethau Bychain – Pecyn Gwybodaeth. A fyddech cystal â rhannu’r pecyn gwybodaeth â’ch rhanddeiliaid – gallai’r rhain gynnwys busnesau, grwpiau neu sefydliadau yng Nghymru a gweddill y byd a all helpu...
Heddiw, mae’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do wedi dod i ben. Mae’r newid hwn yn golygu na fydd gofyniad cyfreithiol bellach ar bobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn ystod o leoliadau o dan do, gan gynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd. Er hyn, bydd gwisgo gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn...
Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn eich gwahodd i lenwi holiadur am ddyfodol datblygiad rhanbarthol yng Nghymru, a’i rannu gyda’ch rhwydwaith, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chysylltiadau. Mae’r fenter hon yn rhan o gydweithrediad rhwng yr OECD a Llywodraeth Cymru. Drwy rannu eich meddyliau am yr heriau a’r blaenoriaethau mewn perthynas â datblygiad economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol, gallwch helpu i lunio dyfodol Cymru a chymunedau lleol Cymru! Bydd eich ymatebion...
Gwersi o FinTech a beth mae’r rhain yn ei olygu i’r Sector Cyfreithol yng Nghymru. Seminar ar-lein ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y Sector Gyfreithiol yng Nghymru, lle byddwn yn dysgu am dyfiant cyflym y Sector FinTech a’i lwyddiant yma. Byddwn hefyd yn ystyried y camau y mae angen i’r Sector Cyfreithiol yng Nghymru eu cymryd nawr er mwyn ymateb i heriau’r dyfodol. Siaradwyr: Sarah Williams-Gardener, PW FinTech Cymru Nicola McNeely, Partner a Phennaeth...
O ddydd Llun 28 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddileu yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal. Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb gael ei ddileu yn yr holl leoliadau sy’n weddill erbyn diwedd mis Mawrth. Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r...
Mae Asiantaeth Ofod y DU yn cynnig cyngor arbenigol i bobl ifanc ar eu syniadau ynglŷn â sut y gallai lloerennau wella bywyd ar y Ddaear. Hefyd, mae'n cynnig cyfran o wobr gwerth £50,000, sydd i'w rhannu ar draws tri grŵp oedran; 11 i 14, 15 i 18 a 19 i 22. Mae Prydain yn paratoi i lansio lloerennau am y tro cyntaf erioed eleni, ac mae Cystadleuaeth SatelLife yn chwilio am y syniadau newydd...
Textiles 2030 yw’r fenter arloesol ar gyfer cwmnïau ffasiwn a thecstilau yn y DU. Mae WRAP yn gweithio gyda manwerthwyr dillad, tecstilau cartref, offer chwaraeon a dillad gwaith, law yn llaw â sector ailddefnyddio ac ailgylchu'r DU i drawsnewid y gadwyn gyflenwi tecstilau yn llwyr. Mae targedau Textilies 2030 yn cynnwys: gostwng carbon 50%+ i gyd-fynd â’r targed byd-eang o 1.5°C gostwng dŵr 30% creu a darparu trywydd tecstilau clir ar gyfer y DU Pam...
Mae Tourism for All yn cynnig cwrs byr newydd am ddim, ‘So what makes you think you are not accessible?’, sy’n dangos bod y camau cyntaf i wella hygyrchedd yn gallu bod yn haws nag yr oeddech chi wedi’i feddwl. Os ydych chi’n awyddus i dyfu’ch busnes neu ei gadw ar ei lefel bresennol, dylech feddwl am y croeso a’r gwasanaeth y gallwch eu darparu i gwsmeriaid ag anghenion o ran mynediad. Gall gwneud rhai...
Pagination
- Previous page
- Page 230
- Next page