Archives
2281 canlyniadau
Ydych chi’n cyflogi pobl anabl? Hoffech chi ehangu’r gronfa dalent sydd ar gael ichi a chymryd camau cadarnhaol i amrywio eich gweithlu? Neu ydych chi am gefnogi’r gweithwyr anabl sydd eisoes yn rhan o’ch gweithlu? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl a gwneud busnesau mor gynhwysol â phosibl, gan greu amodau lle gall pob unigolyn ffynnu. Yn draddodiadol mae cyfradd cyflogaeth pobl anabl yn sylweddol is na chyfradd cyflogaeth...
Heddiw (25 Ionawr 2023), mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion. Gwneir y cyhoeddiad wrth i'r ddirprwyaeth fusnes ddiweddaraf o Gymru deithio i Dubai yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) ar gyfer sioe fasnach feddygol fwyaf y Dwyrain Canol - Arab Health - ar y 28...
Bydd Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain yn cael ei chynnal rhwng 22 Mawrth a 23Mawrth 2023 yn yr NEC, Birmingham. Mae’n dwyn ynghyd gwestai, atyniadau a chyrchfannau sy'n awyddus i gyfarfod a gweithio gyda phobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ac yn gyfrifol am gynllunio gwyliau, tripiau a theithiau. Bydd y sioe yn denu 3,000 o ymwelwyr ac ymysg y rheini fydd yn bresennol mae: cwmnïau bysiau cwmnïau teithio trefnwyr teithiau grŵp asiantaethau teithio gwasanaethau teithio...
Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Mawrth, 7 Chwefror rhwng 3pm a 4pm. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r sesiwn anfonwch e-bost at RecyclingReformsConsultations@gov.wales Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Rheoliadau Ailgylchu ar gyfer y Sector Busnes, y Sector Cyhoeddus a’r Trydydd Sector, y disgwylir iddynt ddod i rym ym mis Hydref 2023. Bydd y diwygiadau a gynigir yn gwella ansawdd a lefel yr ailgylchu a wneir gan fusnesau, y sector cyhoeddus a’r...
A yw eich busnes yn seiberddiogel? Mae risg seiber wedi cael ei nodi’n un o'r risgiau mwyaf i endidau masnachol ledled y byd. Prif nod y Prosiect Yswiriant Seibergadernid gan Brifysgol Abertawe, a ariennir gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, yw gwerthuso effeithiolrwydd yswiriant risg seiber fel offeryn rheoli risg ar gyfer busnesau bach a chanolig Cymru (BBaCh). Mae llawer o fusnesau'n teimlo eu bod nhw’n rhy fach i fod yn darged deniadol i seiber-droseddwr. Yn...
Gellir gwneud cais am grantiau bach o hyd at £7,500 i helpu busnesau a grwpiau cymunedol yn wardiau Talybolion a Thwrcelyn, a chymuned Moelfre tuag at brosiectau neu ddigwyddiadau y gellir eu cyflawni erbyn 31 Mawrth 2023. Rhaid i’r prosiectau cyd-fynd â Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn y Cyngor. Bydd un rownd gyda cyfanswm o £50,000. Cynigir y grantiau ar gyfradd ymyraeth o 75%; disgwylir ymrwymiad o 25% o gyfanswm cost y prosiect gan...
Bydd Cymorth i Dyfu: Cynllun digidol yn cau ar gyfer ceisiadau ar 2 Chwefror 2023. Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu cau'r cynllun gan fod y nifer a gymerodd ran yn is na'r disgwyl. Rhaid defnyddio gostyngiadau a roddwyd ar gyfer meddalwedd gymwys o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Final opportunity for businesses to access Help to Grow: Digital scheme - GOV.UK (www.gov.uk) Fodd...
Mi fydd cynllun newydd i ddychwelyd cynhwysyddion diodydd erbyn 2025 yn helpu Cymru i wella ei chyfraddau ailgylchu ymhellach. Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, dydd Gwener, Ionawr 20 2023 y bydd Cymru'n cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025. Fel rhan o’r fenter newydd byddwn yn talu ernes fach pan fyddwn yn prynu diod mewn cynhwysydd untro, a gawn yn ôl pan fyddwn yn dychwelyd y botel neu'r can. Mae Cymru'n cydweithio gyda Lloegr...
Dewch i’n digwyddiad ‘Adrodd Straeon Masnach Deg: tu ôl i’r llen’ i ddysgu fwy am sut mae sefydliadau Masnach Deg yn ail-fframio’u naratif, a sut gallwch ddysgu wrthyn nhw. Ymunwch â Cymru Masnach Deg Cymru a Hub Cymru Affrica i edrych yn fanylach ar dechnegau adrodd straeon ac i drafod moeseg hybu yn y mudiad Masnach Deg. Cewch glywed gan sawl Sefydliad Masnach Deg am newidiadau diweddar yn y ffordd maen nhw’n cyfathrebu eu gwaith...
Pagination
- Previous page
- Page 228
- Next page