Archives

2241 canlyniadau

Mae meddylfryd newydd yn elfen allweddol o lywio syniadau newydd ac arloesi. Cofiwch, mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnal mantais gystadleuol drwy archwilio’n barhaus ffyrdd newydd o wneud pethau. Er mwyn osgoi mynd i rigol bersonol, edrychwch ar bethau o onglau gwahanol yn rheolaidd. Dyma rai syniadau ar sut i arfer meddylfryd newydd. Meddyliwch am bethau yn eich bywyd neu'ch gyrfa y credwch sydd angen eu newid – ydych chi’n colli’ch sglein? Nodwch y pethau...
Mae Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2022 yn agored i unrhyw ferch sy'n rhedeg busnes yma yng Nghymru. Tydy maint ddim o bwys i ni! Gallwch chi fod yn fand un ferch neu'n sylfaenydd benywaidd cwmni enfawr. Efallai eich bod chi'n fusnes newydd fel ni, neu efallai bod eich busnes wedi bod o gwmpas ers hanner canrif - rydych chi i gyd yr un mor anhygoel! Mae gennym 16 categori i adlewyrchu'r amrywiaeth o fusnesau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd yn amlinellu’r hyn sydd angen i chi ei wybod am gyflwyno safleoedd rheoli ffiniau ym Mhorthladdoedd Cymru. Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn rhoi trosolwg o’r gofynion ar ôl ymadael â’r UE ar gyfer archwilio nwyddau ar y ffin sy’n symud rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Deyrnas Unedig (DU). Mae safleoedd rheoli ffiniau eisoes yn bodoli mewn meysydd awyr a phorthladdoedd sydd wedi bod yn mewnforio o wledydd y tu...
Yn dathlu Gweithwyr Technoleg Ariannol Proffesiynol Cymru, cynhelir Gwobrau FinTech Cymru ar 16 Medi 2022 yn Tramshed, Caerdydd a gellir rhoi cynnig arni ac enwebu nawr. A hithau’n wlad dechnoleg sy’n datblygu, mae gan Gymru’r economi ddigidol sy’n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain a gyda thwf cadarn yn y sector ariannol a phroffesiynol yng Nghymru, mae’r llwyfan wedi’i osod i gefnogi chwyldro digidol y wlad. Mae gan Wobrau FinTech Cymru y gwobrau canlynol...
Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd dros £13 miliwn yn helpu Undebau Llafur i ddarparu atebion sgiliau a chymorth dysgu i weithwyr dros y tair blynedd nesaf. Mae rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) a rhaglen Addysg Undebau Llafur TUC Cymru yn cefnogi Undebau Llafur yng Nghymru i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais arbennig ar ddileu rhwystrau i ddysgwyr traddodiadol nad ydynt yn ddysgwyr. Bydd cam nesaf y...
Bydd Troi Treth yn Ddigidol (MTD) yn orfodol i fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW o 1 Ebrill 2022. Mae MTD yn helpu trethdalwyr i gael eu ffurflenni treth yn iawn drwy leihau camgymeriadau cyffredin, yn ogystal ag arbed amser wrth reoli eu materion treth, ac mae'n rhan allweddol o'r broses gyffredinol o ddigidoleiddio treth y DU. Dylai busnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW nad ydynt eto wedi cofrestru ar gyfer MTD ar...
Gall damweiniau a salwch ddigwydd ar unrhyw adeg felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod pa ddarpariaethau cymorth cyntaf sydd gan eich sefydliad. Mae gan wefan yr Adran Weithredol Iechyd a Diogelwch wybodaeth am gymorth cyntaf yn y gwaith ar gyfer: cyflogwyr cyflogeion swyddogion cymorth cyntaf Yn ogystal, mae gan y safle ddolenni at restr o gyhoeddiadau cysylltiedig â chymorth cyntaf. Mae hyn yn cynnwys teitlau poblogaidd fel First aid at work: Your questions answered...
Heddiw (28 Mawrth), mae amserlen yn cael ei chyhoeddi ar gyfer newidiadau i wasanaeth Profi Olrhain Diogelu Cymru, fel rhan o gynlluniau ehangach i symud yn raddol y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig. Hefyd heddiw (28 March), mae Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol newydd yn cael ei gyhoeddi. Bydd y cynllun hwn yn nodi trefniadau newydd ar gyfer cartrefi gofal rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Daw’r newidiadau wrth i Gymru gymryd camau gofalus...
Nodiadau atgoffa defnyddiol cyn 1 Ebrill 2022: bydd y Dreth Deunydd Pacio Plastig (PPT) newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2022. O'r dyddiad hwn ymlaen, os ydych chi naill ai'n cynhyrchu neu'n mewnforio deunydd pacio plastig, rhaid i chi wirio a ydych chi'n gorfod talu PPT. Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru ar gyfer y dreth o'r dyddiad y byddwch yn dod yn atebol ewch i GOV.UK a mynd drwy'r camau i'ch helpu...
Fel cyflogwr sy’n cynnal cyflogres, mae angen i chi: adrodd i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ar y flwyddyn dreth flaenorol (sy’n gorffen ar 5 Ebrill) a rhoi P60 i’ch gweithwyr paratoi ar gyfer y flwyddyn dreth newydd, sy’n dechrau ar 6 Ebrill Mae CThEM wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig i gyflogwyr ar GOV.UK sy’n cynnwys: cymorth wrth orffen y flwyddyn dreth 2021 i 2022 dechrau’r flwyddyn dreth newydd 2022 i 2023, trwy ddefnyddio codau treth...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.